Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Swyddog Lleoliad Gwaith - Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Llawn Amser, Tymor yn Unig

Pwrpas y Swydd

Pwrpas y swydd yw cefnogi dysgwyr addysg bellach llawn amser i ddod o hyd i leoliad gwaith, i baratoi i fynd ar leoliad gwaith, ac i ymgymryd â'u gwaith ar leoliad ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sy'n ofyniad ar gyfer eu cymhwyster. Byddech hefyd yn gyfrifol am gynnal prosiectau adrannol allweddol gyda'n partneriaid agos, fel ein prosiect Camau i'r Maes Gofal gyda thîm Datblygu Gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cyngor Sir Ynys Môn. Byddech yn cadw cofnodion cywir am y lleoliadau rydym ni'n gweithio gyda nhw, yn sicrhau bod lleoliadau newydd yn cael eu gwirio a bod dysgwyr yn cael eu cefnogi gyda'r broses o gael gwiriad DBS cyn mynd ar leoliad.

Bydd y rhan fwyaf o'r gwaith yn cael ei wneud ⁠ar y safle yn y swyddfa ar gampws Llangefni. Mae hyn yn sicrhau bod y dysgwyr a'r staff addysgu yn gallu cael gafael ar y swyddog lleoliad gwaith a bod systemau'r coleg yn gallu cael eu defnyddio i gadw cofnodion cywir a chyfredol o weithgaredd y dysgwyr yn eu lleoliadau. O bryd i'w gilydd byddai angen mynd iddi ar y safle i gynorthwyo'r dysgwyr i ganfod lleoliadau newydd ac i ddelio â materion yn gysylltiedig â'r lleoliadau.


Math o gytundeb : Telir fesul awr, ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 o ddechrau

Manylion Swydd

Cyfeirnod y Swydd

CM/189/25

Cyflog

£28,729 - £31,176 y flwyddyn pro rata, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith

  • Llangefni
  • Wedi ei nodi yn y Swydd Ddisgrifiad

Hawl gwyliau

  • 28 diwrnod y flwyddyn, yn cynyddu i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (1 Medi i 31 Awst).
  • Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
  • Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.
  • Bydd gan y rhai ar gontractau rhan-amser hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod.
  • Bydd gan y rhai ar gontractau Amser Tymor hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod a delir fel rhan o'r cyflog blynyddol.


Patrwm gweithio

37 awr yr wythnos - 40 wythnos y flwyddyn, Tymor yn Unig (yn ystod tymor y Coleg)

Hawliau Pensiwn

Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Math o gytundeb

Arall

Dyddiad cau

24 Gorff 2025
12:00 YH (Ganol dydd)

Sut i wneud cais

Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg neu’r Saesneg; ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol nac yn arwain at unrhyw oedi.

  1. Lawrlwythwch eich ffurflen gais a’i chadw ar eich cyfrifiadur/dyfais (e.e. ffolder My Documents neu Downloads).
  2. Ewch i'r ffolder sy'n cynnwys y ffurflen gais ac agor y PDF gan ddefnyddio rhaglen megis Adobe Acrobat Reader.
    Peidiwch ag agor y ddogfen yn eich porwr oherwydd efallai na fyddwch yn gallu ei chadw.
  3. Llenwch y ffurflen, gan gynnwys y ffurflen monitro cyfle cyfartal.
  4. Anfonwch eich ffurflen gais orffenedig i jobs@gllm.ac.uk. Dylid defnyddio teitl y swydd a ymgeisir admdani fel llinell pwnc eich e-bost.

Cysylltwch a ni drwy ebost jobs@gllm.ac.uk os ydych angen cymorth neu os oes gennych ymholiad pellach.

Lawrlwytho'r Ffurflen Gais pdf

Mae ein ffurflen gais ar ffurf PDF. Bydd angen rhaglen megis Adobe Acrobat Reader ar eich cyfrifiadur / dyfais i agor a golygu'r ddogfen hon.

Swyddi eraill

Mae gennym nifer o swyddi eraill gan gyflogwyr mewn busnesau bach a mawr ledled yr ardal. Mae'r cyflogwyr a restrir yma'n awyddus i roi cyfle i ddysgwyr Grŵp Llandrillo Menai.

Hysbysfwrdd Swyddi Cyflogwyr

Achrediadau Cyflogaeth

Logo Cyflogwr Hyderus o ran  Anabledd
Logo Leaders in diversity

Datganiad Gwrth-hiliaeth

Yng Ngrŵp Llandrillo Menai, rydym yn rhoi blaenoriaeth i'r egwyddorion sylfaenol o Degwch, Parch, Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant ac Ymgysylltu (FREDIE) ym mhob agwedd ar waith y sefydliad. Rydym yn gadarn yn ein hymrwymiad i feithrin gweithle lle mae pob unigolyn yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a'i rymuso.

Rydym yn dathlu amrywiaeth ac yn falch o fod yn gymuned lle gall pob unigolyn ffynnu a chyflawni ei botensial. Safwn yn gadarn yn erbyn pob math o hiliaeth, gwahaniaethu, a rhagfarn. ⁠Mae ein perthynas â’r Black Leadership Group yn tanlinellu ein hymrwymiad i ysgogi newid systematig ac i gefnogi tegwch mewn addysg a chyflogaeth.

Fel cyflogwr, rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. ⁠Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion o bob cefndir ac yn ymroddedig i sicrhau proses recriwtio gynhwysol a diragfarn.

Tegwch, Parch, Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant ac Ymgysylltu (FREDIE)

  • Mae tegwch wrth wraidd ein gweithrediadau, gan sicrhau triniaeth ddiduedd ar bob lefel.
  • Mae parch yn arwain ein rhyngweithiadau, gan feithrin diwylliant o empathi.
  • Nid nod yn unig yw cydraddoldeb, ond safon ofynnol, gan hyrwyddo cyfle cyfartal waeth beth fo'i gefndir.
  • Mae amrywiaeth yn cael ei ddathlu, gan gydnabod cryfder ein gwahaniaethau a sut y gallant ein gyrru ymlaen.
  • Mae cynhwysiant yn ffynnu trwy ddeialog agored a llwybrau hygyrch i bob llais.
  • Mae ymgysylltu yn hanfodol, gan ein bod yn cynnwys cyflogeion yn weithredol yn y broses o wneud penderfyniadau, gan greu ymdeimlad o berthyn.

Trwy addysg barhaus, ymwybyddiaeth, a mentrau ymroddedig, rydym yn hyrwyddo FREDIE i greu gweithle cytûn a ffyniannus i bawb.

I drafod mater cydraddoldeb ac amrywiaeth, e-bostiwch gt.williams@gllm.ac.uk

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date