Darlithydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Rydym yn awyddus i benodi darlithydd ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol a fydd yn addysgu ar draws Lefelau 2 a 3 (cyfwerth â Lefel AS/Lefel A). Mae’n debyg y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn cael ei ystyried ar gyfer addysgu ar ein rhaglenni lefel Gradd (Lefelau 4, 5 a 6), a ddysgir yn ystod y dydd a gyda’r nos ar ddydd Mawrth/Iau, yn amodol are u hargaeledd.
Croesewir ceisiadau’n arbennig gan unigolion sydd â phrofiad diweddar o weithio ym maes nyrsio / gofal iechyd / gwaith cymdeithasol / gofal cymdeithasol neu unrhyw ddisgyblaeth gyffelyb a fyddai'n gofyn am ddealltwriaeth gadarn o ddeddfwriaeth a pholisïau yn y sector Gofal Iechyd.
Bydd y rôl yn caniatáu i chi ddod â'ch arbenigedd sector presennol a chael eich cefnogi i ddatblygu fel darlithydd Addysg Bellach, gyda chanllawiau a chefnogaeth tîm o Arweinwyr Rhaglenni, Cydlynwyr a Mentoriaid sy'n arwain y ddarpariaeth o fewn yr adran.
Byddai eich dyletswyddau'n cynnwys paratoi a chyflwyno darlithoedd deniadol ar gyfer ein dysgwyr, ynghyd â'r gwaith gweinyddu, asesu a sicrhau ansawdd sy'n gysylltiedig â hynny. Anogwn y defnydd o methodolegau dysgu a dysgu rhyngweithiol, I ymgysylltu a chynnwys dysgwyr, gan ddod â’r dysgu’n fyw.
Byddwch yn gallu rhannu gwybodaeth ac enghreifftiau o'ch profiadau o fewn yr addysgu a'r dysgu a gyflwynir. Bydd hyn yn sicrhau bod dysgwyr yn ennill dealltwriaeth a gwerthfawrogiad manwl o ddyletswyddau, heriau, llawenydd a gwobrau dilyn gyrfa mewn lleoliadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Gallai'r swydd hon gynnwys arweinyddiaeth rhaglen ddysgu, felly, byddem yn chwilio am unigolyn hyderus, trefnus, cefnogol a brwdfrydig sy'n barod i gymryd cyfrifoldeb am y ddarpariaeth y gallent ei harwain.
Byddai gan ein hymgeisydd delfrydol brofiad blaenorol o addysgu a diwydiant. Fodd bynnag, rydym hefyd yn croesawu arbenigwyr yn y sector sy'n edrych i gymryd eu camau cyntaf i addysgu. Byddem yn fodlon ystyried ceisiadau gan ymgeiswyr a hoffai rannu swydd er mwyn gallu parhau i weithio’n ymarferol yn ochr yn ychr â chymryd swydd addysgu.
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CM/191/25
Cyflog
£32,303.72 - £49,934.18 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Llangefni
Hawl gwyliau
|
Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos.
835 awr o oriau addysgu blynyddol - 24 i 26 o oriau addysgu bob wythnos.
Hyd at 5 awr yr wythnos o "weithio oddi ar y safle" i'w gytuno â Rheolwr y Rhaglen
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon
Math o gytundeb
Llawn Amser Parhaol
Dyddiad cau
28 Gorff 2025
12:00 YH
(Ganol dydd)
Lawrlwythiadau
Sut i wneud cais
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg neu’r Saesneg; ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol nac yn arwain at unrhyw oedi.
- Lawrlwythwch eich ffurflen gais a’i chadw ar eich cyfrifiadur/dyfais (e.e. ffolder My Documents neu Downloads).
- Ewch i'r ffolder sy'n cynnwys y ffurflen gais ac agor y PDF gan ddefnyddio rhaglen megis Adobe Acrobat Reader.
Peidiwch ag agor y ddogfen yn eich porwr oherwydd efallai na fyddwch yn gallu ei chadw. - Llenwch y ffurflen, gan gynnwys y ffurflen monitro cyfle cyfartal.
- Anfonwch eich ffurflen gais orffenedig i jobs@gllm.ac.uk. Dylid defnyddio teitl y swydd a ymgeisir admdani fel llinell pwnc eich e-bost.
Cysylltwch a ni drwy ebost jobs@gllm.ac.uk os ydych angen cymorth neu os oes gennych ymholiad pellach.
Mae ein ffurflen gais ar ffurf PDF. Bydd angen rhaglen megis Adobe Acrobat Reader ar eich cyfrifiadur / dyfais i agor a golygu'r ddogfen hon.
Pam gweithio i ni?
Diffiniadau o sgiliau iaith
Canllawiau i Ddarlithwyr
Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Swyddi eraill
Mae gennym nifer o swyddi eraill gan gyflogwyr mewn busnesau bach a mawr ledled yr ardal. Mae'r cyflogwyr a restrir yma'n awyddus i roi cyfle i ddysgwyr Grŵp Llandrillo Menai.
Achrediadau Cyflogaeth
Datganiad Gwrth-hiliaeth
Yng Ngrŵp Llandrillo Menai, rydym yn rhoi blaenoriaeth i'r egwyddorion sylfaenol o Degwch, Parch, Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant ac Ymgysylltu (FREDIE) ym mhob agwedd ar waith y sefydliad. Rydym yn gadarn yn ein hymrwymiad i feithrin gweithle lle mae pob unigolyn yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a'i rymuso.
Rydym yn dathlu amrywiaeth ac yn falch o fod yn gymuned lle gall pob unigolyn ffynnu a chyflawni ei botensial. Safwn yn gadarn yn erbyn pob math o hiliaeth, gwahaniaethu, a rhagfarn. Mae ein perthynas â’r Black Leadership Group yn tanlinellu ein hymrwymiad i ysgogi newid systematig ac i gefnogi tegwch mewn addysg a chyflogaeth.
Fel cyflogwr, rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion o bob cefndir ac yn ymroddedig i sicrhau proses recriwtio gynhwysol a diragfarn.
Tegwch, Parch, Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant ac Ymgysylltu (FREDIE)
- Mae tegwch wrth wraidd ein gweithrediadau, gan sicrhau triniaeth ddiduedd ar bob lefel.
- Mae parch yn arwain ein rhyngweithiadau, gan feithrin diwylliant o empathi.
- Nid nod yn unig yw cydraddoldeb, ond safon ofynnol, gan hyrwyddo cyfle cyfartal waeth beth fo'i gefndir.
- Mae amrywiaeth yn cael ei ddathlu, gan gydnabod cryfder ein gwahaniaethau a sut y gallant ein gyrru ymlaen.
- Mae cynhwysiant yn ffynnu trwy ddeialog agored a llwybrau hygyrch i bob llais.
- Mae ymgysylltu yn hanfodol, gan ein bod yn cynnwys cyflogeion yn weithredol yn y broses o wneud penderfyniadau, gan greu ymdeimlad o berthyn.
Trwy addysg barhaus, ymwybyddiaeth, a mentrau ymroddedig, rydym yn hyrwyddo FREDIE i greu gweithle cytûn a ffyniannus i bawb.
I drafod mater cydraddoldeb ac amrywiaeth, e-bostiwch gt.williams@gllm.ac.uk