Darlithydd Coedwigaeth
Lleolir yr adran Goedwigaeth yng Ngholeg Glynllifon. Mae myfyrwyr yn astudio cyrsiau lefel 2 a 3 llawn amser gyda'r posibilrwydd o gwblhau prentisiaeth ar lefel 2 mewn Cadwraeth Amgylcheddol gyda chyflogwyr addas. Mae myfyrwyr yn mynd i mewn i fyd gwaith gyda chyflogwyr sy’n cyflawni ystod eang o wasanaethau a gweithgareddau gyda’r diwydiant coetir a choedwigaeth, gan gynnwys sefydliadau cenedlaethol sy’n rheoli coedwigaeth ar raddfa fawr neu gynnal a chadw seilwaith yn ogystal â gweithrediadau llawfeddygon coed llai a chwmnïau rheoli tir. Daw myfyrwyr Coedwigaeth o amrywiaeth o gefndiroedd, bydd y mwyfarfif yn dod yn syth o’r ysgol ar ddeachrau eu gyrfa, bydd rhai hynach yn newid cyfeiriad gyrfa neu yn dod i’r coleg gyda profiad o weithio yn y maes. Mae mwyafrif y myfyrwyr yn symud ymlaen i gyflogaeth gyda galw mawr am gweithwyr yn y diwydiant. Mae rhai myfyrwyr hefyd yn parhau mewn addysg a mynd ymlaen i brifysgol lle maent yn astudio ar lefel uwch trwy gwblhau gradd. Bydd gan y darlithydd Coedwigaeth gyfrifoldeb bugeiliol dros fyfyrwyr a sicrhau y bodlonir safonau ansawdd perthnasol fel y nodir gan y corff dyfarnu cymwysterau. Gosodir y cwricwlwm gan y corff dyfarnu cymwysterau. Bydd gofyn i'r darlithydd ddatblygu sesiynau perthnasol i sicrhau bod myfyrwyr yn cael profiad dysgu da a bod amcanion yr uned yn cael eu trosglwyddo'n effeithiol. Bydd myfyrwyr yn derbyn cyfarwyddyd ymarferol yn ystod y cwrs a bydd angen cydlynu'r rhain gyda'r tîm i atgyfnerthu dealltwriaeth o'r sesiynau dosbarth. ar adegau fe fydd gofyn i’r darlithydd gymeryd rhan mewn sesiwynau ymarferol, mae profiad ymarferol o weithio yn y maes yn bwysig ar gyfer adgyfnerthu dysgu trwy brofiadau ac ymarferion diwydiannol. Mae galw mawr am fyfyrwyr sy'n cwblhau'r cymwysterau gan y diwydiant coedwigaeth, coedyddiaeth a rheoli cefn gwlad lleol a chenedlaethol sy'n rhoi ystod o gyfleoedd ar gyfer datblygu gyrfa. Mae'r adran felly yn hyfforddi myfyrwyr mewn gwahanol agweddau yn ymwneud â'r diwydiant Coedwigaeth gan gynnwys cyrsiau byr mewn defnyddio a chynnal llif gadwyn, torwyr brwsh, peiriannau naddu a chymorth cyntaf. Mae cynnwys y cwrs hefyd yn ymdrin ag agweddau ar reoli tir, rheoli plâu a chlefydau, defnydd hamdden, Coetiroedd, cefn gwlad a rheoli prosiectau. Mae'n ofynnol yn fras i Ddarlithydd Coedwigaeth ddarparu dysgu o ansawdd uchel, creu cyfleoedd dysgu effeithiol a galluogi pob myfyriwr i gyflawni ei botensial llawn. |
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
BD/172/25
Cyflog
£32,303.72 - £49,934.18 y flwyddyn yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Glynllifon
Hawl gwyliau
● 46 diwrnod o wyliau yn flynyddol
● Pob gwyliau cyhoeddus a arsylwir fel arfer, yn cael eu pennu'n flynyddol.
● Hyd at 5 diwrnod o ddiwrnodau cau effeithlonrwydd y flwyddyn, a bennir yn flynyddol.
Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos
835 awr o amser addysgu blynyddol – 24 i 26 awr yr wythnos.
Hyd at 5 awr yr wythnos o weithio'r safle gyda chytundeb y rheolwr.
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon
Math o gytundeb
Llawn Amser Parhaol
Dyddiad cau
11 Gorff 2025
12:00 YH
(Ganol dydd)
Lawrlwythiadau
Sut i wneud cais
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg neu’r Saesneg; ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol nac yn arwain at unrhyw oedi.
- Lawrlwythwch eich ffurflen gais a’i chadw ar eich cyfrifiadur/dyfais (e.e. ffolder My Documents neu Downloads).
- Ewch i'r ffolder sy'n cynnwys y ffurflen gais ac agor y PDF gan ddefnyddio rhaglen megis Adobe Acrobat Reader.
Peidiwch ag agor y ddogfen yn eich porwr oherwydd efallai na fyddwch yn gallu ei chadw. - Llenwch y ffurflen, gan gynnwys y ffurflen monitro cyfle cyfartal.
- Anfonwch eich ffurflen gais orffenedig i jobs@gllm.ac.uk. Dylid defnyddio teitl y swydd a ymgeisir admdani fel llinell pwnc eich e-bost.
Cysylltwch a ni drwy ebost jobs@gllm.ac.uk os ydych angen cymorth neu os oes gennych ymholiad pellach.
Mae ein ffurflen gais ar ffurf PDF. Bydd angen rhaglen megis Adobe Acrobat Reader ar eich cyfrifiadur / dyfais i agor a golygu'r ddogfen hon.
Pam gweithio i ni?
Diffiniadau o sgiliau iaith
Canllawiau i Ddarlithwyr
Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Swyddi eraill
Mae gennym nifer o swyddi eraill gan gyflogwyr mewn busnesau bach a mawr ledled yr ardal. Mae'r cyflogwyr a restrir yma'n awyddus i roi cyfle i ddysgwyr Grŵp Llandrillo Menai.
Achrediadau Cyflogaeth
Datganiad Gwrth-hiliaeth
Yng Ngrŵp Llandrillo Menai, rydym yn rhoi blaenoriaeth i'r egwyddorion sylfaenol o Degwch, Parch, Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant ac Ymgysylltu (FREDIE) ym mhob agwedd ar waith y sefydliad. Rydym yn gadarn yn ein hymrwymiad i feithrin gweithle lle mae pob unigolyn yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a'i rymuso.
Rydym yn dathlu amrywiaeth ac yn falch o fod yn gymuned lle gall pob unigolyn ffynnu a chyflawni ei botensial. Safwn yn gadarn yn erbyn pob math o hiliaeth, gwahaniaethu, a rhagfarn. Mae ein perthynas â’r Black Leadership Group yn tanlinellu ein hymrwymiad i ysgogi newid systematig ac i gefnogi tegwch mewn addysg a chyflogaeth.
Fel cyflogwr, rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion o bob cefndir ac yn ymroddedig i sicrhau proses recriwtio gynhwysol a diragfarn.
Tegwch, Parch, Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant ac Ymgysylltu (FREDIE)
- Mae tegwch wrth wraidd ein gweithrediadau, gan sicrhau triniaeth ddiduedd ar bob lefel.
- Mae parch yn arwain ein rhyngweithiadau, gan feithrin diwylliant o empathi.
- Nid nod yn unig yw cydraddoldeb, ond safon ofynnol, gan hyrwyddo cyfle cyfartal waeth beth fo'i gefndir.
- Mae amrywiaeth yn cael ei ddathlu, gan gydnabod cryfder ein gwahaniaethau a sut y gallant ein gyrru ymlaen.
- Mae cynhwysiant yn ffynnu trwy ddeialog agored a llwybrau hygyrch i bob llais.
- Mae ymgysylltu yn hanfodol, gan ein bod yn cynnwys cyflogeion yn weithredol yn y broses o wneud penderfyniadau, gan greu ymdeimlad o berthyn.
Trwy addysg barhaus, ymwybyddiaeth, a mentrau ymroddedig, rydym yn hyrwyddo FREDIE i greu gweithle cytûn a ffyniannus i bawb.
I drafod mater cydraddoldeb ac amrywiaeth, e-bostiwch gt.williams@gllm.ac.uk