Byddwch yn barod ar gyfer mis Medi!
Fel y coleg mwyaf yng Nghymru, rydym yn cynnig ystod eang o gyfleoedd - o gyrsiau galwedigaethol a chyrsiau Lefel A i gyrsiau gradd a chymwysterau proffesiynol. Beth bynnag yw'ch nod, mae gennym gwrs sy'n addas i chi.
Mae'r llefydd yn llenwi'n gyflym, felly peidiwch â cholli cyfle – gwnewch gais heddiw.
![Myfyriwr Lefel-A Pwllheli yn defnyddio microsgop](/imager/images/Programme-Areas/357298/GLLM-CMD-Pwllheli-6_b53bbcbaa438afef7e17904f53c4511b.jpeg)
Lefel A
Mae ein canolfannau Chweched Dosbarth yn gam nesaf delfrydol i chi os ydych yn gobeithio mynd ymlaen i brifysgol neu i waith ar ôl dilyn eich cyrsiau Lefel A.
![Myfyriwr Dolgellau yn defnyddio peirianwaith](/imager/images/Programme-Areas/357277/GLLM-CMD-Dolgellau-11_b53bbcbaa438afef7e17904f53c4511b.jpeg)
Cyrsiau Llawn Amser
Yn y coleg, cewch gyfleoedd gwych i wneud ffrindiau newydd, i roi cynnig ar rywbeth newydd ac i gael ychydig o annibyniaeth.
Cynigiwn ddewis eang o gyrsiau academaidd a galwedigaethol mewn mwy na 35 maes pwnc, gan ei gwneud yn hawdd i chi ddod o hyd i’ch cwrs delfrydol.
![Myfyriwr yn darllen yn y llyfrgell](/imager/images/Programme-Areas/357280/GLLM-CMD-Dolgellau-29_b53bbcbaa438afef7e17904f53c4511b.jpeg)
Graddau
Rydym yn cynnig ystod eang o gymwysterau lefel prifysgol ar draws Gogledd Cymru, yn cynnwys Graddau Sylfaen a Graddau Anrhydedd a ddilyswyd gan rai o brifysgolion gorau Cymru a Lloegr.
![Myfyrwyr yn yfed coffi wrth fwrdd](/imager/images/Programme-Areas/357283/GLLM-General-Campus-4_4f5f748e2fec7f4b2758670a94592eb0.jpeg)
Digwyddiadau Agored
Mae digwyddiadau agored yn gyfle i fyfyrwyr a rhieni weld ein campysau a'n cyfleusterau tan gamp, i gyfarfod a'r tiwtoriaid ac i ddod i wybod rhagor am y dewis eang o gyrsiau rydym yn eu cynnig.
Archebwch eich lle yn ein digwyddiad nesaf yma.
![](/imager/images/Programme-Areas/357273/GLLM-General-Classroom-5_4f5f748e2fec7f4b2758670a94592eb0.jpeg)
Gwnewch gais rŵan!
I gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais am gwrs llawn amser sy'n dechrau fis Medi ewch i'n tudalen 'Sut i Wneud Cais' yma.
Fel arall, os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses, mae croeso i chi gysylltu â thîm ein Gwasanaethau i Ddysgwyr ar unrhyw un o'n campysau.