Prentisiaeth Swyddog Cyfrifon Iau Level 2
Noder: Derbynnir y wybodaeth a ddangosir am bob swydd wag yn uniongyrchol gan y cyflogwr a enwir. Er ein bod ni (Grŵp Llandrillo Menai) yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau cydraddoldeb ac amrywiaeth, nid ydym yn gyfrifol am unrhyw wallau neu anwaith yn y geiriad a ddefnyddir.
Prentisiaeth yw'r swydd hon a disgwylir ymrwymiad i'r cwrs cyfrifyddu. Hanfodol ar gyfer y swydd hon – sgiliau cyfathrebu rhagorol, sgiliau Technoleg Gwybodaeth da mewn Excel/mewnbynnu data, cywirdeb a talu sylw i fanylion.
Rydym yn Chwilio am rywun sydd a:-
- Natur dawel a all weithio'n dda o dan bwysau.
- Sgiliau trefnu cryf, yn cynnwys y gallu i flaenoriaethu tasgau.
- Gonest a diwyd.
- Hunan-gymhelliant ac yn cael ei ysgogi gan ganlyniadau da.
Cefnogi Rheolwr Cyllid y Grŵp gyda thasgau gweinyddol sy'n gysylltiedig â chyllid yn ogystal â rhoi cymorth gyda cheisiadau cyllid i'n tîm gwerthu ehangach.
- Paratoi anfonebau i gwsmeriaid gan gynnwys prosesu derbynebau, trefnu ad-daliadau a mynd ar ôl dyledion yn unol â gweithdrefnau safonol i sicrhau rheoli arian parod a chredyd yn effeithiol.
- Prosesu anfonebau gan gyflenwyr, taliadau wythnosol a threuliau i'w talu drwy BACS yn unol â gweithdrefnau ac amserlenni penodol.
- Cysylltu â chwmnïau cyllid i sicrhau bod dyledion yn cael eu talu'n brydlon.
- Cynorthwyo'r Timau Mewnbynnu Archebion a Chymorth i Gwsmeriaid gydag ymholiadau, a llunio anfonebau a nodiadau credyd lle bo'n berthnasol.
- Bod yn brif bwynt cyswllt gwerthu ar gyfer ein Hadran Ceffylau, gan gynnwys anfon archebion yn ddyddiol.
- Llenwi ceisiadau am gyllid yn electronig dros y ffôn, drwy sgwrs uniongyrchol gyda'r cwsmer.
- Anfon post y cwmni bob dydd.
- Cynorthwyo'r Gweinyddwyr Cyfrifon yn yr adran yn ôl yr angen a chyflenwi yn ystod cyfnodau gwyliau i sicrhau bod yr adran yn gweithredu'n llyfn.
- Cefnogi'r adran gyda dyletswyddau ad hoc, dyletswyddau ffeilio a dyletswyddau gweinyddol.
- Sicrhau cadw at weithdrefnau ISO'r cwmni a'r adrannau.
- Sicrhau bod eich gweithgareddau'n bodloni ac yn integreiddio â gofynion sefydliadol o ran rheoli ansawdd, iechyd a diogelwch, gofynion cyfreithiol, polisïau amgylcheddol a dyletswydd gofal cyffredinol.
Nid yw’r uchod yn rhestr gynhwysfawr a bydd gofyn i chi gyflawni tasgau gwahanol yn ôl y gofyn
Sut i wneud cais
Anfonwch CV a LLythyr eglurhaol at
Jack.Young@niagarahealthcare.co.uk
Manylion Swydd
Lleoliad
Dinbych
Sir
Sir Ddinbych
categori
Prentisiaethau
Sector
Busnes a Rheoli / Business & Management
Gwefan
https://findanapprenticeship.service.gov.wales/find-apprenticeship/accounts-junior
Dyddiad cau
22.06.25


Biwro Cyflogaeth a Menter yw CAMVA@LlandrilloMenai a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Gwarant Pobl Ifanc.
Oes gennych chi swyddi gwag yr hoffech eu llenwi?
Hoffech chi allu cyrraedd cynulleidfa darged o filoedd o fyfyrwyr?
Felly beth am hysbysebu eich swyddi AM DDIM ar ein hysbysfwrdd.
Gall y swyddi y rhown sylw iddynt ar eich rhan gynnwys:
- Prentisiaethau
- Swyddi llawn amser
- Swyddi rhan-amser
- Contractau cyfnod penodol
I hysbysebu swydd wag, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen isod a'i hanfon i employerjobs@gllm.ac.uk