Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

VTCT Lefel 3 Darparu triniaethau trydanol i'r wyneb

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Bangor
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    6 awr am 16 wythnos

Cofrestrwch
×

VTCT Lefel 3 Darparu triniaethau trydanol i'r wyneb

Cyrsiau Rhan-amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r rhaglen hon yn addas i chi os ydych am gynnig triniaethau electrotherapi i'r wyneb i'ch cleientiaid a'ch bod yn awyddus i ddysgu rhagor am yr offer electronig a ddefnyddir.

Mae’r cwrs yn cynnwys amryw o driniaethau electrotherapi sy'n trin yr wyneb, y gwddf a'r décolleté, er enghraifft:

  • Galfanig
  • Ffaradig
  • Micro-sgraffinio
  • Sugno
  • CACI (micro-gerrynt)
  • Amledd uchel
  • Microffleimio

I gael rhagor o wybodaeth am driniaethau unigol edrychwch ar ein tudalen Facebook sef 'Salon Menai'

Gofynion mynediad

  • Cymhwyster Lefel 2 neu gyfwerth mewn Gofalu am y Croen
  • Rhaid gallu rhoi triniaethau i'r wyneb a bod â'r wybodaeth anatomegol berthnasol

Cyflwyniad

Dros gyfnod o 16 wythnos, ar ddydd Iau, 1.00pm - 7.00pm

Byddwch yn gwneud gwaith theori a gwaith ymarferol mewn amgylchedd gwaith realistig

Asesiad

Amrediad o ddulliau asesu:

  • Arsylwadau ymarferol - dangos sgiliau
  • Gwaith theori - dangos gwybodaeth
  • Prawf byr ar ddiwedd yr uned

Dilyniant

Dilyniant i weithio:

  • Mewn Sba
  • Yn y maes Harddwch cyffredinol
  • Ym maes Harddwch a Choluro

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Trin Gwallt a Therapi Harddwch