Nyrsio Milfeddygol Lefel 3 (Prentisiaethau)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Glynllifon
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
2½-3 blynedd
Nyrsio Milfeddygol Lefel 3 (Prentisiaethau)Prentisiaethau
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Hoffech chi gael gyrfa'n gweithio gydag anifeiliaid? Oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn Nyrs Filfeddygol Cofrestredig ?
Campws Coleg Meirion-Dwyfor yng Nglynllifon yw'r unig ganolfan yng ngogledd Cymru i gynnig cwrs Lefel 3 y City and Guilds sydd wedi'i gymeradwyo gan Goleg Brenhinol y Milfeddygon. Yn ôl Deddf Milfeddygon 1966, ni allwch ymgymryd â holl ddyletswyddau Nyrs Filfeddygol gymwysedig heb y cymhwyster hwn.
Mae'r cwrs yn addas i chi os ydych eisoes yn ymwneud â'r ochr nyrsio mewn milfeddygfa, neu os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gydag anifeiliaid.
Dyma rai o'r unedau a astudir:
- Deall gofynion rhedeg milfeddygfa
- Anatomeg a Ffisioleg
- Lles, iechyd a hwsmonaeth anifeiliaid
- Rheoli heintiau
- Cymorth nyrsio
- Nyrsio mewn argyfwng a gofal critigol
- Cyflenwi meddyginiaethau
- Sgiliau diagnostig
- Anaesthesia
- Gweithio mewn labordy
- Gweithio mewn ystafell lawdriniaethau
Rhaid i ddysgwyr hefyd gael addewid o leoliad gwaith drwy gydol y cwrs mewn Milfeddygfa Hyfforddi a gymeradwywyd. Bydd gofyn i chi gael o leiaf 1,800 awr o hyfforddiant ymarferol gyda Darparwr Hyfforddiant.
Gofynion mynediad
- 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth.
- Efallai y bydd cymwysterau eraill lefel 2 neu uwch yn cael eu derbyn - bydd hyn yn cael ei drafod yn y cyfweliad.
- Rhaid i'r rhai sydd am gael lle ar y rhaglen ddod i gyfweliad.
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Darlithoedd, er mwyn ymdrin â'r theori
- Profiad ymarferol gydag amrediad o anifeiliaid mewn amgylchedd gweithio realistig, mewn cyfleusterau pwrpasol ar gampws Glynllifon
- Profiad gwaith a hyfforddiant gyda hyfforddwr clinigol dynodedig, fel myfyriwr Nyrs Filfeddygol cyflogedig ar sail rhyddhau am y dydd o fewn practis hyfforddi
Yn ystod y ddwy flynedd gyntaf, byddwch yn treulio un diwrnod yr wythnos yn y coleg, a phedwar diwrnod yr wythnos yn y practis.
Yn ystod y drydedd flwyddyn, byddwch yn sefyll arholiadau ymarferol allanol ac yn treulio oriau'n gweithio yn y maes cyn gwneud cais am gael eich cofrestru gyda Choleg Brenhinol y Milfeddygon.
Saif Glynllifon ar 750 acer o dir amaethyddol a choetir, a cheir yno ganolfan farchogaeth dan do a chanolfan anifeiliaid er mwyn i chi allu astudio mewn amgylchedd realistig.
Asesiad
- Profion amlddewis ar-lein, gan ddefnyddio 'Evolve' x 3
- Aseiniadau a luniwyd yn y Ganolfan x 5
- Arholiadau a luniwyd yn y Ganolfan x 3
- Cwblhau'r Log Cynnydd Nyrsio sy'n seiliedig ar waith am 3 flynedd
- Arholiad ymarferol (OSCE) sy'n cynnwys 12 prawf ymarferol. Byddwch yn sefyll y rhain yn allanol – ar benwythnos fel arfer)
Dilyniant
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallwch gael gyrfa werth chweil, a gall dysgwyr fynd ymlaen i weithio yn y sector Nyrsio Milfeddygol, fel Nyrs Filfeddygol Gofrestredig.
Gall y dysgwyr fynd ymlaen hefyd i ennill cymwysterau uwch yn y sector e.e. y BSc/FD/HND mewn Nyrsio Milfeddygol.
Ym maes Nyrsio Milfeddygol, mae cyfleoedd hefyd i arbenigo mewn meysydd penodol e.e. ymddygiad, rheoli clwyfau.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Prentisiaethau
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- International
- Astudiaethau Anifeiliaid a Nyrsio Milfeddygol
Dwyieithog:
n/a