Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Peiriant codi telesgopig RTITB ar dir garw. Codau ABA J2 a J3

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Canolfan Isadeiledd, Sgiliau a Thechnoleg (CIST) - Llangefni
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    5 Diwrnod

Cofrestru
×

Peiriant codi telesgopig RTITB ar dir garw. Codau ABA J2 a J3

Cyrsiau Byr

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae cwrs yr RTITB mewn Defnyddio Peiriant Codi Telesgopig (i rai Dibrofiad) yn addas i rai sydd ag ychydig iawn neu ddim profiad o ddefnyddio Peiriant Codi Telesgopig ac sydd am ennill cymhwyster defnyddiwr a gydnabyddir yn genedlaethol.

Y pynciau a astudir ar y cwrs:

  • Cyfrifoldebau o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974, PUWER 98 a LOLER 98
  • Cod Diogelwch Defnyddwyr
  • Gwiriadau Paratoi
  • Ffactorau sy'n effeithio ar sefydlogrwydd
  • Rheolyddion symud a rheolyddion hydrolig y Peiriant Codi Telesgopig
  • Symud y Peiriant Codi Telesgopig ar ffordd agored ac oddi ar y ffordd/ar dir garw
  • Stacio ar wahanol lefelau
  • Dad-stacio paledi llawn a rhai gwag
  • Rolau a Chyfrifoldebau
  • Llawlyfrau'r Gwneuthurwr
  • Cydrannau a Swyddogaethau Pwysig
  • Llywio, Gyrru a Brecio
  • Gwiriadau Cyn Defnyddio
  • Mynd ar y peiriant ac oddi arno’n ddiogel
  • Ffurfweddu cyn Teithio
  • Symud yn Ddiogel: Llawn a Gwag, Mannau Agored a Chyfyng
  • Cynnal Gwiriadau Diogelwch ar Safle
  • Tasgau sy'n golygu Codi a Thrin Llwythi
  • Gosod, Addasu a Thynnu Atodiadau
  • Trefnau o ran Cludo Peiriannau
  • Y Drefn ar Ddiwedd Shifft a'r Drefn o ran Diffodd y Peiriant

Dyddiadau Cwrs

CIST-Llangefni

Mae gofyn am gyfweliad cyn cofrestru ar gyfer y cwrs hwn. Ffoniwch ni ar 08445 460 460 am wybodaeth bellach.

DyddiadAmserDyddiauOriauWythnosauCostCod
15/06/202608:00 Dydd Llun, Dydd Mawrth, Dydd Mercher, Dydd Iau, Dydd Gwener35.001 £1,125D0026218
Mae’r cwrs hwn am ddim drwy’r Cyfrif Dysgu Personol , gan arbed £1125 i chi . Cliciwch 'Cofrestru' ar frig y dudalen i ddechrau eich cais. Mae meini prawf cymhwysedd yn berthnasol .

Gofynion mynediad

Nid oes rhaid cael profiad blaenorol.

Cyflwyniad

⁠Mae'r cwrs hwn yn cynnwys cyflwyniadau yn yr ystafell ddosbarth, arddangosiadau ymarferol a ymarfer o dan oruchwyliaeth tiwtor.

Asesiad

Asesiad ymarferol a arholiad theori atebion byr

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: N/A

Maes rhaglen:

  • Cyfrif Dysgu Personol
  • Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Dysgwyr yn sicrhau fod y wal frics yn lefel