Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

RTITB - Hyfforddiant Ddefnyddwyr Profiadol Ddefnyddio Cerbydau Fforch godi Gwrthbwyso, codau ABA B1(Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu o Bell, CIST-Llangefni
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Cwblhau e-drycareichcyflymdraeichhunhefyd;

    Hyfforddiant ymarferol am 9 awr ar gyfer 1 gweithredydd

    (Mwyafswm - 1 Gweithredydd i gydymffurfio gydag ymbellhau cymdeithasol covid 19 tra'n berthnasol)

    Hyfforddiant am 11 awr ar gyfer 2 Weithredydd

    Hyfforddiant am 14 awr ar gyfer 3 gweithredydd

    ar bob adeg arall

Gwnewch gais
×

RTITB - Hyfforddiant Ddefnyddwyr Profiadol Ddefnyddio Cerbydau Fforch godi Gwrthbwyso, codau ABA B1(Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)

Cyrsiau Byr

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Ar gyfer gweithredwyr profiadol sydd heb gofnodion hyfforddi ffurfiol. Asesir medrusrwydd ar ddiwrnod yr hyfforddi.

Bydd cwrs hyfforddi'r RTITB ar ddefnyddio Cerbydau Codi Gwrthbwyso (neu dryciau fforch godi) yn rhoi'r sgiliau i chi ddefnyddio'r tryciau'n ddiogel ac effeithlon, gwneud archwiliad cyn-ddefnydd, a chofio ac esbonio achosion ansefydlogrwydd tryciau a llwythi.

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i'r meysydd canlynol:

  • Rheolyddion ac offer tryciau codi
  • Cychwyn/symud/stopio a llywio'r tryc
  • Gweithredu'r rheolyddion hydrolig
  • Gyrru ar/oddi ar ramp
  • Llenwi a dad-lenwi cerbyd
  • Stacio a dad-stacio
  • Sefydlogrwydd tryc codi

Cod diogelwch gweithredwyr

Gofynion mynediad

Dim

Cyflwyniad

Byddwch yn dysgu drwy gyfrwng cyfuniad o e-ddysgu ac addysgu ac ymarferion ymarferol yn y dosbarth.

Asesiad

  • Cwblhau hyfforddiant e-Dryc ar-lein
  • Asesiadau Mewn Canolfan:
  • Cwblhau asesiad theori ar bapur
  • Gwiriad cyn-defnydd ymarferol
  • Asesiad Sgiliau ymarferol

Dilyniant

  • Cwrs Trosi 1 diwrnod i fod yn weithredwr tryciau
  • Cwrs 1 diwrnod ar reoli cludiant yn y gweithle

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: N/A

Maes rhaglen:

  • Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Dwyieithog:

n/a

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Myfyrwyr yn edrych trwy 'total station'