Coginio Proffesiynol (Cegin a Phantri) Lefel 3
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dolgellau
- Dull astudio:Llawn Amser
- Hyd:
1 flwyddyn
Coginio Proffesiynol (Cegin a Phantri) Lefel 3Llawn Amser (Addysg Bellach)
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.
Disgrifiad o'r Cwrs
Ydych chi'n awyddus i feithrin sgiliau uwch ym maes coginio proffesiynol?
Mae'r rhaglen alwedigaethol hon yn ffordd wych ymlaen, pa un a ydych yn dod o gefndir proffesiynol ac am gael cymhwyster a gydnabyddir yn rhyngwladol neu newydd ddilyn cwrs lefel 2 yn y maes.
Cynlluniwyd y cwrs hwn i ddatblygu'ch sgiliau ymarferol ac i ehangu'ch gwybodaeth, gan eich helpu i ennill cymhwyster proffesiynol uwch.
Byddwch yn dysgu sut i baratoi, coginio a chyflwyno amrywiaeth o seigiau gan ddefnyddio pysgod a physgod cragen, cig, dofednod a helgig, yn ogystal ag ystod eang o seigiau llysiau, sawsiau a dresins.
Byddwch yn astudio gastronomeg a diwylliant bwyd, yn datblygu'ch sgiliau ymchwilio a goruchwylio, ac yn dysgu am y rheoliadau diweddaraf yn y maes. Wrth i chi ddatblygu arbenigedd a magu hyder, cewch eich annog i gymryd rhan mewn cystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol.
Yn ogystal â'r prif gymhwyster, Diploma Lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol Uwch (Pantri Cegin), bydd gennych gyfle i ennill cymwysterau a gydnabyddir gan y diwydiant h.y. Ymwybyddiaeth o Alergenau, COSHH, Bwydydd Iachus a Dietau Arbennig; Codi a chario Bydd Sgiliau Hanfodol neu TGAU (yn dibynnu ar eich gradd gyfredol) hefyd yn rhan integrol o'r cwrs.
Gofynion mynediad
I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:
- Gradd Llwyddo mewn cymhwyster Lefel 2 perthnasol
- Profiad perthnasol mewn diwydiant
Bydd angen hefyd i chi fod wedi cael presenoldeb o 86% yn eich blwyddyn astudio flaenorol.
Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.
Cyflwyniad
- Gweithdai ymarferol
- Sesiynau theori
- Astudio mewn amgylchedd gwaith realistig
- Amgylchedd dysgu rhithwir
Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:
- Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
- Ailsefyll TGAU a/neu
- Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru
Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.
Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.
Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.
Sgiliau Hanfodol
Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.
Ailsefyll TGAU
Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.
Mathemateg a Chymraeg/Saesneg
Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.
Asesiad
- Tasgau ymarferol
- Aseiniadau
- Cwestiynau atebion byr
- Arsylwi
Dilyniant
Bydd cwblhau cwrs hwn yn rhoi i chi amrywiaeth o ddewisiadau o ran addysg a chyflogaeth. Byddwch yn gallu manteisio ar set newydd o wybodaeth a sgiliau arbenigol, ac yn gallu rhagori mewn meysydd coginio mwy arbenigol.
Gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o raglenni yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys:
- Prentisiaeth Lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol
- Gradd Sylfaen (FdA) Celfyddydau Coginio
- BA (Anrh) Rheoli ym maes Lletygarwch
Os byddwch yn mynd yn syth i waith, bydd gennych yr opsiwn o weithio mewn nifer o rolau coginio yn y diwydiant lletygarwch.
Os oes gennych eisoes brofiad proffesiynol bydd y cwrs hwn yn ychwanegu at eich cyflogadwyedd ac yn eich galluogi i gael gwell cyfleoedd yn y diwydiant.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- International
- Lletygarwch ac Arlwyo
Dwyieithog:
Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:
- Dolgellau
Lletygarwch ac Arlwyo
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: