Celfyddydau Perfformio
Cewch ddysgu am bob agwedd ar berfformio, yn cynnwys drama, dawns, canu, cerddoriaeth a chrefft llwyfan.
Yn ystod y cwrs, cewch gyfleoedd ymarferol i feithrin eich sgiliau perfformio drwy gymryd rhan mewn sioeau yn y coleg, yn ogystal â pherfformio mewn theatrau proffesiynol allanol.
Cewch hefyd gyfle i ymweld â theatrau, lleoliadau a gweithdai ledled y Deyrnas Unedig er mwyn meithrin dealltwriaeth ehangach o ddiwydiant y celfyddydau perfformio.
Cerddoriaeth a Thechnoleg Cerddoriaeth
Cewch brofiad uniongyrchol o weithio mewn stiwdios recordio proffesiynol a defnyddio ystafelloedd cynhyrchu cerddoriaeth lle y ceir offer cyfoes o’r un safon ag a geir yn y diwydiant. Byddwch yn cael eich annog i feithrin eich sgiliau cyfansoddi a pherfformio ac i gymryd rhan mewn cynyrchiadau cerddorol a gigs.
Cewch gyfle hefyd i fynd i gigs a gweithdai gan artistiaid adnabyddus a dysgu sut i gael gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth.