Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Bangor
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1 flwyddyn

Gwnewch gais
×

Celfyddydau Perfformio Lefel 2

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Oes gennych chi ddiddordeb byw mewn perfformio? Hoffech chi ddatblygu'ch sgiliau a'ch hyder?

Cynlluniwyd y cwrs hwn i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau perfformio yn cynnwys actio, symud, perfformio i gyd-destun cerddoriaeth a gweithio ar eich syniadau arloesol eich hun. Byddwch yn meithrin gwybodaeth werthfawr i'r celfyddydau perfformio ac yn gallu gweithio mewn modd proffesiynol gyda phobl sy'n rhannu eich diddordebau.

Bydd y cwrs yn addas i chi os ydych wedi astudio TGAU neu gwrs Lefel 1 perthnasol. Byddwch yn magu hyder dros gyfnod o amser, yn perfformio gyda'ch cyd-fyfyrwyr ac yn paratoi i berfformio o flaen cynulleidfa.


Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

  • 2 TGAU gradd D neu uwch ac 1 TGAU gradd E, yn ddelfrydol i gynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg (iaith 1af), neu gymhwyster Mynediad 3 / Lefel 1 Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Rhifedd a Chyfathrebu
  • Gradd Llwyddo mewn cymhwyster Lefel 1 perthnasol
  • Profiad perthnasol mewn diwydiant

Fel rhan o'r broses ymgeisio, gofynnir i chi fynychu cyfweliad i roi y cyfle i chi drafod y cwrs.

Mae lleoedd ar y rhaglen yn destun cyfweliad a chlyweliad.


Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Gwaith grŵp
  • Dysgu yn y dosbarthac yn y theatr
  • Cefnogaeth tiwtor
  • Ymweliadau addysgol
  • Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)
  • Ystafell Ddosbarth Google

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU
Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Asesir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau canlynol:

  • Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
  • Cyflwyniadau ac arddangosiadau
  • Portffolios a llyfrau logio gweithgareddau
  • Perfformio ac arsylwi

Dilyniant

Bydd cymwysterau a'r sgiliau a ddysgir gennych ar y cwrs yn eich cynorthwyo i fynd ymlaen i astudio.

Cewch y sgiliau sylfaenol sydd eu hangen i gychwyn neu ddatblygu eich gyrfa yn y diwydiannau creadigol a pherfformio.

Yn ddibynnol ar eich cyrhaeddiad ar Lefel 2 gallech fynd ymlaen i nifer o gyrsiau Uwch Lefel 3 yng Ngrŵp Llandrillo Menai, yn cynnwys:

  • Celfyddydau Perfformio, Lefel 3

Gallwch hefyd fynd ymlaen i bynciau mewn meysydd eraill.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Celfyddydau Perfformio

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Bangor

Celfyddydau Perfformio

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Celfyddydau Perfformio

Myfyriwr ac athro mewn theatr