Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

PASMA - Mynediad Lefel Isel (E-DDYSGU)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu o Bell, CIST-Llangefni
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    1 Diwrnod

Disgrifiad o'r Cwrs

Y rhai sy'n gweithio o unedau parod o dan 2.5m o uchder.

Mae'r modiwl e-ddysgu hwn yn ddelfrydol ar gyfer yr unigolion hynny nad sydd eisiau treulio amser i ffwrdd o'u swydd / gweithle.

I gymryd mantais o hyn, dilynwch y camau isod;

  • Cysylltwch gyda ni ar 0845 460 460 - ar yr adeg yma codir cost lawn y cwrs arnoch.

  • Cwblhewch y modiwl e-ddysgu theori y gellir ei wneud unrhyw bryd, unrhyw le, ac ar unrhyw ddyfais, ar gyflymdra sy'n gweddu i chi. (Yn gydnaws gyda CP, Macs, cyfrifiaduron llechen a ffonau clyfar ar unrhyw borwr rhyngrwyd modern)

  • Unwaith i chi gwblhau a phasio yr e-ddysgu yn llwyddiannus cysylltwch gyda ni i archebu eich hyfforddiant a'ch asesiad ymarferol yn ein Canolfan a gymeradwyir gan PASMA - gofynnir i chi ddarparu tystiolaeth o gwblhad llwyddiannus o'r dystysgrif e-ddysgu a grëir/argreffir ar ddiwedd eich e-ddysgu.

*Mae'n ofynnol i gyfranogwyr i fynychu ein Canolfan hyfforddi a gymeradwyir gan PASMA o fewn 90 niwrnod i gwblhau'r modiwl e-ddysgu i sefyll eu harholiad theori ac ymgymryd â hyfforddiant ac asesu ymarferol [cynyddwyd hyn tros dro o ganlyniad i Covid-19].

  • Bydd angen i chi ddod a chopi o'ch "tystysgrif cwblhau" i'r cwrs i'r hyfforddwr i ddilysu, heb hyn gwrthodir mynediad i chi.

  • Wrth gael mynediad i'r cwrs, gofynnir i chi gwblhau holiadur llyfr-agored aml ddewis sydd yn seiliedig ar y wybodaeth a enillwyd o'r e-ddysgu. Dilynir hyn gan sesiwn hyfforddi ac asesu ymarferol, gyda'r hyd yn ddibynnol ar wybodaeth a phrofiad.

Gofynion mynediad

Unwaith i chi gwblhau'r e-ddysgu, rhaid i chi hefyd gwblhau'r asesiad ymarferol a'r profi yn ein Canolfan wedi ei gymeradwyo gan PASMA. Wedi cyflawni'r tair rhan yn llwyddiannus, byddwn yn gwneud cais am eich Ardystiad/Cerdyn Adnabod PASMA.

Nid yw cwblhau'r e-ddysgu yn unig yn eich cymhwyso fel defnyddiwr twr; mae safonau diwydiannol yn gofyn am y wybodaeth a enillwyd yn y sesiwn theori e-ddysgu ac asesu cydosod a defnyddio'r offer i ddangos medrusrwydd.

Cyflwyniad

Dysgu drwy gymysgedd o e-ddysgu, ac ymarferion ymarferol

Asesiad

  • Cwblhau modiwl e-ddysgu ar-lein
  • Holiadur aml-ddewis llyfr agored sydd yn seiliedig ar y wybodaeth a enillwyd o'r e-ddysgu.
  • Cwblhau asesiad ymarferol

Dilyniant

Cyrsiau eraill a gynigir gan y Grwp

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: N/A

Maes rhaglen:

  • Cyfrif Dysgu Personol
  • Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Dwyieithog:

n/a

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Myfyrwyr yn edrych trwy 'total station'