Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cymorth Cyntaf Paediatrig - Dyfarnaid Lefel 3 (2 ddiwrnod)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos, CIST-Llangefni, Parc Menai (Busnes@LlandrilloMenai)
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    2 ddiwrnod (12 awr)

Gwnewch gais
×

Cymorth Cyntaf Paediatrig - Dyfarnaid Lefel 3 (2 ddiwrnod)

Cyrsiau Byr

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cymhwyster hwn yn addas i ddysgwyr sy'n dymuno bod yn swyddogion cymorth cyntaf pediatrig yn y gweithle gyda chyfrifoldeb am les babanod a phlant. Mae cynnwys y cwrs yn cyd-fynd â'r maes llafur cymorth cyntaf pediatrig yn y Cyfnod Sylfaen Blynyddoedd Cynnar.

Cost £175

Gofynion mynediad

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.

  • Rhaid i chi fod yn o leiaf 14 mlwydd oed
  • Rhaid wrth agwedd feddyliol a gallu corfforol i allu ymgymryd â'r tasgau ymarferol

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy

  • Gwaith grŵp
  • Asesiadau ymarferol
  • Chwarae rôl
  • Senarios
  • Addysgu ffurfiol / theori
  • Arholiad

Mae'r cymhwyster yn cynnwys 2 uned orfodol. Rhaid i chi lwyddo yn y ddwy uned i ennill y cymhwyster.

Ymdrinnir â phynciau megis rolau a chyfrifoldebau swyddog cymorth cyntaf pediatrig, sut i roi cymorth cyntaf i faban neu blentyn sy'n anymatebol, sut i adfywio'r galon a'r ysgyfaint yn ogystal â defnyddio diffibriwlwr allanol awtomatig. Mae hefyd yn ymdrin â rhoi cymorth cyntaf i faban neu i blentyn sy'n tagu, sydd wedi torri asgwrn neu sy'n wynebu unrhyw gyflwr arall megis llosg, sioc drydanol a gwenwyno sydyn.

Asesiad

Asesiad mewn amrywiol ddulliau gan eich tiwtor neu'ch asesydd, gan gynnwys:

  • profion ymarferol
  • asesiadau sy'n seiliedig ar dasgau

Dilyniant

Gallech ddewis un o'r nifer o wahanol gyrsiau sydd ar gael yn Grŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys:

  • Cymhwyster ym maes gofal plant
  • Cyrsiau cymorth cyntaf eraill (oedolion).

Mae'r cymhwyster yn ddilys am gyfnod o dair blynedd, ac yna bydd gofyn i'r dysgwyr wneud y cwrs eto.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Iechyd a Diogelwch

Dwyieithog:

n/a

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Myfyrwyr mewn ystafell ddosbarth

Iechyd a Diogelwch

Dau fyfyriwr yn trafod gwaith ar liniadur