Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

NVQ 2 mewn Adeiladu Cychod a Gwasanaethau Ategol

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos, Pwllheli - Hafan (Peirianneg)
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Rhan-amser: 1 flwyddyn (rhyddhad am ddiwrnod i astudio)

Cofrestrwch
×

NVQ 2 mewn Adeiladu Cychod a Gwasanaethau Ategol

Cyrsiau Rhan-amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Ydych chi'n weithiwr proffesiynol newydd neu eisoes yn gweithio yn y sector morwrol? Ydych chi am ennill cymhwyster gwerthfawr tra byddwch yn gweithio? Bydd y cwrs NVQ hwn yn golygu y caiff eich cymhwysedd ei gydnabod mewn amrywiaeth eang o weithgareddau morwrol, gan gynnwys cynhyrchu cychod, cynnal a chadw cychod a thrwsio cychod dan oruchwyliaeth.

Mae'r cwrs yn addas i fyfyrwyr sy'n symud ymlaen o gymhwyster Lefel 1 neu 2 perthnasol, neu o wybodaeth broffesiynol sydd gennych eisoes. Rhaid ichi fod yn gweithio'n barod yn y diwydiant ac yn chwilio i astudio drwy gael eich rhyddhau am ddiwrnod.

Gofynion mynediad

  • Dylech fod yn gweithio mewn amgylchedd adeiladu cychod, ffitio neu gynnal a chadw cychod
  • Rhaid i chi fod â chymhelliad ac yn frwdfrydig.
  • Dylai fod gennych dueddiad naturiol a phriodol i fod yn fecanyddol ac ymarferol

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

Mae'r cwrs yn cael ei ddarparu drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Dosbarthiadau theori
  • Gweithdai ymarferol
  • Dangosiadau
  • Myfyrio ar eich sgiliau proffesiynol

Asesiad

Mae'r cwrs yn cael ei asesu drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Gwaith cwrs
  • Gwaith myfyriol
  • Arsylwi ar eich sgiliau ymarferol

Dilyniant

Bydd cwblhau'r NVQ hwn yn helpu i chi symud ymlaen yn eich gyrfa forol. Efallai y byddwch yn gallu ymgymryd â chyfrifoldebau ychwanegol yn eich swydd a gweithio tuag at rôl goruchwylio neu reoli. Byddwch wedi gwella eich cyflogadwyedd yn y diwydiant morol, a bydd ystod o ddewisiadau proffesiynol ar gael. Os ydych am symud ymlaen ymhellach mewn addysg, bydd gennych yr opsiwn o symud ymlaen i gwrs Lefel 3. Cynigir nifer o gyrsiau sy'n addas gan Grŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys cwrs Peirianneg Forol BTEC a chwrs City and Guilds mewn Adeiladu Cychod, Cynnal a Chadw a Chefnogaeth.

Gwybodaeth campws Pwllheli

Mae'r cwrs yn cynnwys yr unedau canlynol:

Unedau Craidd:

  • Rhagarweiniad i'r Diwydiant Morwrol
  • Egwyddorion technoleg adeiladu cychod

Unedau dewisol (dewiswch ddwy):

  • Gweithgynhyrchu cyfansawdd ar gyfer adeiladu morwrol
  • Gwasanaethu a chynnal a chadw injans morwrol
  • Gwasanaethu a chynnal a chadw systemau gyriad morwrol

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Mae'r cwrs yn cynnwys yr unedau canlynol:

Unedau Craidd:

  • Rhagarweiniad i'r Diwydiant Morwrol
  • Egwyddorion technoleg adeiladu cychod

Unedau dewisol (dewiswch ddwy):

  • Gweithgynhyrchu cyfansawdd ar gyfer adeiladu morwrol
  • Gwasanaethu a chynnal a chadw injans morwrol
  • Gwasanaethu a chynnal a chadw systemau gyriad morwrol

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Technoleg Forol

Dwyieithog:

n/a

Technoleg Forol

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Technoleg Forol