Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cerddoriaeth a Thechnoleg Cerddoriaeth Lefel 2

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Bangor, Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1 flwyddyn

Gwnewch gais
×

Cerddoriaeth a Thechnoleg Cerddoriaeth Lefel 2

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Llandrillo-yn-Rhos

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Ydych chi wedi gwirioni ar gerddoriaeth? Hoffech chi gael gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth?

Ar y cwrs hwn, cewch wybodaeth werthfawr am y sector cerdd a thechnoleg cerdd. Byddwch yn dysgu am bynciau fel: sut i gynllunio a chreu cynnyrch cerddorol, sut i weithio fel cerddor, ar eich pen eich hun ac yn rhan o grŵp.

Byddwch yn dysgu sut i recordio a chynhyrchu cerddoriaeth, a byddwch yn edrych ar y meddalwedd cyfrifiadurol perthnasol a ddefnyddir yn y diwydiant cerddoriaeth.

Bydd hefyd yn eich helpu i chi feithrin amrediad o sgiliau a thechnegau ymarferol, a fydd yn eich paratoi i weithio ac astudio ar lefel uwch. Bydd hyn yn cynnwys edrych ar nifer o bynciau sy'n seiliedig ar gerddoriaeth a chyfrifiaduron yn ogystal ag astudio cerddoriaeth boblogaidd a recordio.

Fel rhan o'r cwrs hwn, byddwch yn derbyn Diploma Lefel 2 UAL mewn Perfformio a Chynhyrchu Cerddoriaeth.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

  • 2 TGAU gradd D neu uwch ac 1 TGAU gradd E, yn ddelfrydol i gynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg (iaith 1af), neu gymhwyster Mynediad 3 / Lefel 1 Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Rhifedd a Chyfathrebu
  • Gradd Llwyddo mewn cymhwyster Lefel 1 perthnasol
  • Profiad perthnasol mewn diwydiant

Fel rhan o'r broses ymgeisio, gofynnir ichi fynychu cyfweliad i roi'r cyfle i chi drafod y cwrs.

Mae lleoedd ar y rhaglen yn destun cyfweliad a chlyweliad.

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Sesiynau ymarferol a gweithdai
  • Gweithgareddau yn y dosbarth
  • Gwaith grŵp, fel dosbarth cyfan neu mewn grwpiau arbenigol
  • Astudio o'ch pen a'ch pastwn eich hun
  • Sesiynau gyda Thiwtor Personol
  • Ystafell Ddosbarth Google

Byddwch yn elwa ar gyfleusterau sydd o'r radd flaenaf yn ystod y cwrs, a fydd yn amrywio o gampws i gampws.⁠ Mae'r rhain yn cynnwys stiwdio recordio, offerynnau cerddorol, cyfleusterau cymysgu, lolfa fyw, ystafelloedd trin deunydd digidol Mac, ystafelloedd ymarfer a lolfeydd myfyrwyr.

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU
Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Ar y rhaglen, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
  • Cyflwyniadau ac arddangosiadau
  • Portffolios a llyfrau logio gweithgareddau
  • Perfformio ac arsylwi

Dilyniant

Os gwnewch chi gwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd gennych nifer o ddewisiadau o ran addysg a gwaith.

Bydd llawer o fyfyrwyr yn mynd ymlaen i ddilyn cwrs Lefel 3 perthnasol gyda Grŵp Llandrillo Menai. Trwy wneud hyn byddwch yn datblygu'ch gwybodaeth a'ch sgiliau creadigol ar lefel uwch. Gallwch hefyd ddewis gwneud cais i ddilyn cwrs mewn maes gwahanol.

Ar ôl cwblhau'r rhaglen, gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o gyrsiau uwch Lefel 3 yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys:

  • Technoleg Gwybodaeth Lefel 3

Bydd gennych hefyd gyfleodd gwaith posib yn y diwydiant cerddoriaeth, y diwydiannau creadigol a'r sector dechnoleg un ai yn syth neu yn dilyn hyfforddiant pellach. Gall y rhain gynnwys gyrfa fel cerddor, cynhyrchydd, peiriannydd darlledu, rheolwr adloniant, cyfansoddwr neu athro.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Cerddoriaeth a Thechnoleg Cerddoriaeth

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Bangor

Cerddoriaeth a Thechnoleg Cerddoriaeth

Person sy'n defnyddio offer cerdd