Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Hyfforddiant Meddyginiaethau

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    1 diwrnod (7 awr)

Gwnewch gais
×

Hyfforddiant Meddyginiaethau

Cyrsiau Byr

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Bydd y cwrs hwn yn ymdrin â nifer o feysydd sydd yn berthnasol i faes meddyginiaethau.

I ddechrau, byddwch yn dysgu am bwysigrwydd gweini a defnyddio meddyginiaethau yn ddiogel mewn lleoliad iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae'r cwrs yn edrych ar bolisïau cyfredol lleol a chenedlaethol ynghyd â rheoliadau yn ymwneud â gweini meddyginiaethau.

Byddwch hefyd yn edrych ar ffyrdd diogel o storio meddyginiaethau, sut i weini meddyginiaethau gan ganolbwyntio ar arferion Iechyd a Diogelwch, cyfathrebu a llenwi ffurflenni cofnodi meddyginiaeth.

Gofynion mynediad

  • Nid oes gofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Gwaith grŵp
  • sesiwn ymarferol
  • cyflwyno mewn dosbarth

Asesiad

  • Mae'r cwrs yn cael ei asesu drwy drafodaeth, cwblhau llyfr gwaith byr a'r defnydd o astudiaethau achos.
  • Wedi cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn tystysgrif gan y coleg.

Dilyniant

Gallech ddewis un o'r nifer o wahanol gyrsiau sydd ar gael yn Grŵp Llandrillo Menai.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: N/A

Maes rhaglen:

  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Dwyieithog:

n/a

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Myfyrwyr mewn ystafell ddosbarth