Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Trawsgrifio Clywedol a Geiriol ym maes Meddygaeth, Lefel 2

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Abergele
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    3 awr yr wythnos am 30 wythnos

Cofrestrwch
×

Trawsgrifio Clywedol a Geiriol ym maes Meddygaeth, Lefel 2

Cyrsiau Rhan-amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Bwriad y cwrs yw'ch galluogi i feithrin y wybodaeth a'r sgiliau i allu cynhyrchu'n gywir y dogfennau proffesiynol sy'n gyffredin mewn amgylchedd meddygol. Byddwch yn dysgu sut i ddehongli gwybodaeth berthnasol a defnyddio technegau prosesu geiriau amrywiol er mwyn golygu, fformatio ac argraffu ystod o ddogfennau safonol. Byddwch hefyd yn dysgu defnyddio offer a meddalwedd clywedol i gynhyrchu ystod o ddogfennau proffesiynol sy'n gyffredin ym maes meddygaeth. Byddwch yn dysgu sut i drawsgrifio geiriau wedi'u recordio sy'n cynnwys terminoleg feddygol ac yn cymhwyso technegau prosesu geiriau i gynhyrchu a fformatio dogfennau sy'n gyffredin mewn amgylchedd meddygol.

Bydd cwblhau'r cwrs hwn yn eich arfogi â sgiliau pwysig ar gyfer gyrfa ym maes gweinyddu meddygol. Gall eich helpu i lwyddo mewn swydd weinyddol yn unrhyw un o sefydliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gan gynnwys fel:

Ysgrifennydd, Derbynnydd, Gweinyddwr, Cynorthwyydd Personol, Clerc Cofnodion Meddygol a Chlerc Ward.

Gofynion mynediad

Ystyrir defnydd da o'r Saesneg yn fanteisiol gyda phwyslais neilltuol ar gywirdeb wrth sillafu.

Mae'r cymhwyster Lefel 2 mewn Terminoleg Feddygol yn hynod fanteisiol ar gyfer trawsgrifio clywedol.

Cyflwyniad

Sesiynau addysgu gan ddefnyddio trafodaethau, ymarferion/gweithgareddau ymarferol, asesiadau, cyfarwyddiadau uniongyrchol, arddangosiadau, a dulliau dysgu eraill.

Asesiad

Bydd yr holl waith yn cael ei asesu drwy gyfuniad o’r dulliau canlynol: portffolio o dystiolaeth ac asesiad o dasgau ymarferol.

Dilyniant

Dilyniant:

  • Trawsgrifio Clywedol a Geiriol ym maes Meddygaeth, Lefel 3
  • Sgiliau Gweinyddol mewn Amgylchedd Meddygol, Lefel 2
  • Sgiliau Cyfathrebu mewn Amgylchedd Meddygol, Lefel 2
  • Gweithio fel Gweinyddwr Meddygol yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Lefel 2
  • Terminoleg Feddygol ar gyfer Gweinyddwyr, Lefel 2

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Busnes a Rheoli

Busnes a Rheoli

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr yn siarad mewn ystafell ddosbarth