Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Defnyddwyr Ysgolion ac Ysgolion Bach

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    CIST-Llangefni, Dolgellau - CaMDA (Adeiladu a Pheirianneg)
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    ½ diwrnod

Gwnewch gais
×

Defnyddwyr Ysgolion ac Ysgolion Bach

Cyrsiau Byr

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cwrs wedi ei anelu at y rhai sydd yn defnyddio ysgolion ac ysgolion bach yn aml wrth gyflawni eu dyletswyddau dyddiol. Bydd y cwrs yn cynnwys deddfwriaeth gyfredol, Cod Ymarfer, Rheoliadau ac Arweiniad sy'n effeithio ar weithio o uchder. Pynciau cwrs yn cynnwys:

  • asesu a phenderfynu pryd y mae'n briodol defnyddio ysgol neu ysgol fach
  • lleoli ysgolion ac ysgolion bach yn gywir a'u defnyddio yn ddiogel
  • dod i ddeall y gyfraith a'r safonau yn ymwneud ag ysgolion ac ysgolion bach
  • dod i ddeall y peryglon wrth ddefnyddio ysgolion ac ysgolion bach
  • dod i ddeall sut i storio a thrin ysgolion ac ysgolion bach.

Gofynion mynediad

Nid oes gofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn.

Cyflwyniad

Bydd y cwrs yn cael ei ddysgu drwy sesiwn ystafell ddosbarth gyda sleidiau lle mae'r hyfforddwr yn darparu gwybodaeth a holi cwestiynau.

Bydd yna holiadur unigol ar y defnydd diogel ac effeithiol o ysgolion ac ysgolion bach. Mae yna weithgareddau asesu - cwestiynau aml ddewis, dod o hyd i namau mewn ysgolion ac ysgolion bach a gosod ysgolion ac ysgolion bach yn eu lle.

Asesiad

Bydd yna brawf llyfr caeedig gyda marc pasio o 80%.

Dilyniant

Bydd tystysgrif Ladder Association a LadderCard yn cael ei roi i fynychwyr cwrs llwyddiannus sydd yn cwblhau'r sesiynau asesu theori ac ymarferol ac mae ganddynt gyfnod o ddilysrwydd o 5 mlynedd.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: N/A

Maes rhaglen:

  • Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
  • Iechyd a Diogelwch

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Llangefni

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Myfyrwyr yn edrych trwy 'total station'

Iechyd a Diogelwch

Dau fyfyriwr yn trafod gwaith ar liniadur