ISEP - Certificate in Sustainability & Environmental Management
Manylion Allweddol
-
Ar gael yn:Canolfan Isadeiledd, Sgiliau a Thechnoleg (CIST) - Llangefni, Busnes@LlandrilloMenai Llwyn Brain, Parc Menai, Busnes@LlandrilloMenai, Parc Busnes Llanelwy, Ty Gwyrddfai
-
Dull astudio:Rhan amser
-
Hyd:
15 diwrnod
ISEP - Certificate in Sustainability & Environmental Management
Cyrsiau Byr
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cwrs Tystysgrif mewn Rheoli'r Amgylchedd a Chynaliadwyedd wedi'i fwriadu ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio ar lefel weithredol mewn swyddi sy'n ymwneud â'r amgylchedd a chynaliadwyedd, neu'r rhai sy'n awyddus i ehangu eu gwybodaeth a datblygu eu gyrfa yn y maes. Mae'r cwrs yn rhoi sylfaen gref i ddysgwyr mewn egwyddorion cynaliadwyedd ac amgylcheddol yn ogystal â'r adnoddau ymarferol sydd eu hangen arnynt i ysgogi newid cadarnhaol. Mae'r maes llafur wedi ei rannu'n dri modiwl. Ar ôl cwblhau'r cwrs, gall y cyfranogwyr wneud cais i ymaelodi ag ISEP fel ymarferwr a defnyddio’r ôl-ddodiad proffesiynol PISEP.
Mae'r maes llafur wedi ei rannu'n dri modiwl, yn trafod pynciau fel:
- Tueddiadau byd-eang a'u goblygiadau amgylcheddol, cymdeithasol a sefydliadol
- Modelau cynaliadwy ar gyfer busnes a llywodraethu
- Egwyddorion amgylcheddol a sut maent yn cysylltu â sefydliadau, cynnyrch a gwasanaethau
- Polisïau a deddfau perthnasol a sut maent yn effeithio ar sefydliadau
- Adnoddau, technegau, systemau ac arferion ar gyfer cynaliadwyedd
- Dulliau arweiniol ac arloesol ar gyfer canfod atebion cynaliadwy
- Casglu, dadansoddi ac adrodd ar ddata ar gyfer gwneud penderfyniadau
- Adnabod problemau ac asesu cyfleoedd
- Cyfathrebu, ymgysylltu â rhanddeiliaid
- Rhoi newid ar waith, trawsnewid, prosiectau a rhaglenni
Mae ffi'r cwrs yn cynnwys aelodaeth blwyddyn o ISEP, a fydd yn dechrau wrth gofrestru.
Yn ystod y cwrs, mae gan y dysgwyr aelodaeth fel ymgeiswyr i fod yn ymarferwyr.
Wedi iddynt lwyddo yn yr asesiadau, gwahoddir y dysgwyr i gwblhau proses ffurfiol i ymaelodi ag ISEP fel Ymarferwr.
Gofynion mynediad
I gofrestru ar y cwrs tystysgrif hwn, dylai fod gan ddysgwyr ddealltwriaeth lefel sylfaen o gysyniadau'n gysylltiedig â'r amgylchedd a chynaliadwyedd, un ai drwy brofiad gwaith blaenorol neu drwy gymhwyster rhagarweiniol perthnasol (er enghraifft, y Dystysgrif Sylfaen mewn Rheoli'r Amgylchedd a Chynaliadwyedd).
Cyflwyniad
Mae’r cwrs yn cynnwys 120 awr (15 diwrnod) o ddysgu a gellir ei gyflwyno drwy un o'r dulliau canlynol:
Dosbarthiadau ar-lein o bell (dan arweiniad Tiwtor)
Dysgu yn y dosbarth
Asesiad
Mae'r dulliau asesu wedi'u strwythuro ar draws:
- Tri aseiniad seiliedig ar wybodaeth
- Un asesiad o gymhwysedd, sy'n dangos sut mae'r wybodaeth a ddysgwyd ar y cwrs wedi cael ei rhoi ar waith yn ymarferol yn y gweithle
I'r rhai ar y llwybr dysgu cymhwysol, gall dulliau asesu eraill fod ar gael a fydd yn rhoi mwy o bwyslais ar arddangos ymarferol.
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus, bydd y dysgwyr yn cael tystysgrif ffurfiol a manylion ynghylch sut i wneud cais i ymaelodi ag ISEP fel Ymarferwr (gyda'r ôl-ddodiad PISEP).
Dilyniant
Mae ennill y dystysgrif hon yn galluogi dysgwyr i uwchraddio eu haelodaeth ac i ymaelodi ag ISEP fel Ymarferwr.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
2
Maes rhaglen:
- Iechyd a Diogelwch
Iechyd a Diogelwch
