Cyflwyniad i Dechnoleg Pympiau Gwres (o'r Aer ac o'r Ddaear)
Manylion Allweddol
-
Ar gael yn:Canolfan Isadeiledd, Sgiliau a Thechnoleg (CIST) - Llangefni, Ty Gwyrddfai
-
Dull astudio:Rhan amser
-
Hyd:
3.5 awr (hanner diwrnod)
Cyflwyniad i Dechnoleg Pympiau Gwres (o'r Aer ac o'r Ddaear)
Cyrsiau Byr
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cwrs cyflwyniadol hanner diwrnod hwn yn rhoi trosolwg ymarferol ynghylch Pympiau Gwres o'r aer ac o'r ddaear, gan ganolbwyntio ar egwyddorion y dechnoleg, yr ystyriaethau cyn eu gosod, a'u perfformiad mewn eiddo domestig. Bydd dysgwyr yn archwilio'r gwahaniaethau rhwng systemau gwres o'r aer a gwres o'r ddaear, elfennau allweddol eu dyluniad a sut i fynd i'r afael â heriau gosod cyffredin. Mae'r cwrs hefyd yn ymdrin â gofynion ardystio MCS a'r hyn y gall cwsmeriaid ei ddisgwyl o ran costau rhedeg a chynnal a chadw'r system. Mae'n ddelfrydol ar gyfer y rhai sy'n newydd i dechnolegau gwresogi carbon isel ac sy'n chwilio am ddealltwriaeth sylfaenol ar gyfer hyfforddiant technegol pellach
Pwnc |
Y Prif Ddeilliannau Dysgu |
Croeso a Chyd-destun |
Deall pam mae'r Deyrnas Unedig yn newid i wres carbon isel, targedau'r llywodraeth a'r cymorth a gynigir (e.e. y Cynllun Uwchraddio Boeleri), a throsolwg o bympiau gwres o'i gymharu â gwresogi traddodiadol. |
Sut mae Pympiau Gwres yn gweithio |
Deall egwyddorion trosglwyddo gwres a'r cylch oeri, y gwahaniaethau rhwng systemau gwres o'r aer a gwres o'r ddaear, cydrannau'r systemau a chynllun gosod system nodweddiadol. |
Ystyriaethau Gosod |
Adnabod addasrwydd eiddo (inswleiddio, maint rheiddiaduron), cyfrifiadau maint a cholli gwres, sŵn, caniatâd cynllunio, gofynion lleoli a heriau gosod cyffredin. |
Ardystio, Perfformiad a Disgwyliadau Cwsmeriaid |
Deall gofynion ardystio MCS (e.e. MIS 3005), Cyfernod Perfformiad Tymhorol (SCOP) ac effeithlonrwydd, trosglwyddo'r system, canllawiau i ddefnyddwyr, cynnal a chadw, a phryderon cyffredin cwsmeriaid. |
Gofynion mynediad
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.
Mae’r cwrs yn addas ar gyfer:
- Peirianwyr gwresogi, gosodwyr a phrentisiaid sy'n ystyried gweithio yn y sector gwresogi carbon isel.
- Cynghorwyr ynni, darparwyr tai a chontractwyr sydd â diddordeb mewn gwresogi adnewyddadwy.
- Unigolion sy'n newydd i dechnolegau carbon isel a systemau ynni cynaliadwy.
Dylai'r dysgwyr feddu ar:
- Ddiddordeb cyffredinol mewn systemau gwresogi cynaliadwy.
- Parodrwydd i gymryd rhan mewn trafodaethau a dysgu gweledol.
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs dros 3.5 awr (hanner diwrnod) ac mae'n cynnwys:
- Cyflwyniadau gan diwtor gydag arddangosiadau gweledol.
- Trafodaethau grŵp a sesiwn holi ac ateb.
- Astudiaethau achos o systemau'r byd go iawn.
- Trosolwg o'r cydrannau, ymarferoldeb ac egwyddorion dylunio'r systemau
Asesiad
Cwrs cyflwyniadol nad yw'n cael ei asesu yw hwn. Mae'r asesu'n anffurfiol ac yn seiliedig ar gyfranogiad ac ymgysylltiad.
Bydd dysgwyr yn derbyn Tystysgrif Presenoldeb ar ôl cwblhau'r cwrs.
Dilyniant
Mae'r cwrs hwn yn fan cychwyn ardderchog i'r rhai sy'n bwriadu dilyn:
- Hyfforddiant i osodwyr neu ddylunwyr Pympiau Gwres o'r aer neu o'r ddaear.
- Cyrsiau eraill ym maes systemau gwresogi, systemau trydanol, neu systemau ynni adnewyddadwy.
- Cymwysterau sy'n cyd-fynd â MCS neu gynlluniau ôl-osod domestig.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
N/A
Maes rhaglen:
- Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
