Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    20 wythnos, 3 awr yr wythnos. 6pm-9pm, nos Fawrth.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cwrs hwn yn gyflwyniad i Weithgynhyrchu gyda Chymorth Cyfrifiadur lle byddwch chi'n dysgu sut i raglennu llwybrau torri CNC ar gyfer Geometreg 2D a 3D. Yna byddwch chi'n gallu efelychu'ch canlyniadau ar y feddalwedd.

Byddwch hefyd yn dysgu G-CODE sylfaenol ac yn gallu gweithredu peiriant CNC Diwydiannol yn annibynnol i gynhyrchu cydrannau

Gofynion mynediad

Dim - Yn ddelfrydol, wedi cwblhau y cwrs byr CAD

Cyflwyniad

Gan ddilyn enghreifftiau ymarferol a darluniau, byddwch yn rhaglennu'n annibynnol ar feddalwedd cyn peiriannu.

Asesiad

Mae 3 tasg asesu i'w rhaglennu a'u cynhyrchu yn ogystal â chwestiynau sy'n seiliedig ar wybodaeth.

Dilyniant

Mae cyrsiau byr eraill yn yr adran Beirianneg i'w mynychu fel CAD, Cyflwyniad i Roboteg a hefyd Weldio.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Peirianneg
  • Cyfrif Dysgu Personol

Dwyieithog:

n/a

Peirianneg

Myfyriwr Dolgellau yn defnyddio peirianwaith