Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cwrs Addysgeg Ddwyieithog i Diwtoriaid

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Lleoliad cymunedol
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Cwrs deuddydd.

Gwnewch gais
×

Cwrs Addysgeg Ddwyieithog i Diwtoriaid

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Nod y cwrs hwn yw cynyddu nifer y tiwtoriaid a'r darlithwyr sy'n addysgu dysgwyr dwyieithog. Byddant yn cael eu harfogi i weithio'n hyderus ac yn effeithiol yn Gymraeg a Saesneg, gan gydbwyso'r defnydd o'r ddwy iaith mewn modd sy'n briodol i anghenion ieithyddol y grŵp dysgu.

Gellir cyflwyno'r cwrs hwn i goleg neu sefydliad dysgu'n seiliedig ar waith, neu ei deilwra i faes pwnc penodol. Cysylltwch â Sgiliaith i drafod ymhellach.

Gofynion mynediad

Anelir yr hyfforddiant at diwtoriaid a darlithwyr yn y sector addysg bellach a phrentisiaethau, sy'n gallu cyfathrebu'n llawn yn y Gymraeg a'r Saesneg, ond sydd heb brofiad neu hyder pan ddaw i addysgu grwpiau dwyieithog.

Cyflwyniad

Bydd pob dysgwr sy'n ymgymryd â'r cwrs yn:

  • Dysgu am ddiffiniadau ac enghreifftiau ymarferol o ddulliau addysgu dwyieithog cadarn ar gyfer amrywiaeth o sefyllfaoedd ieithyddol, a sut i gynllunio ar eu cyfer;
  • Deall patrymau a diffyg hyder yn y dysgwyr wrth fynd ati i gynllunio cwrs dwyieithog;
  • Defnyddio proffiliau iaith wrth gynllunio addysgu;
  • Dysgu am addysgu gwahaniaethol ar gyfer anghenion ieithyddol pob dysgwr mewn grŵp;
  • Derbyn cyngor ar sut i ddod o hyd i adnoddau dwyieithog neu gyfrwng Cymraeg, a sut i greu eich adnoddau ei hunain;
  • Cynllunio addysgu dwyieithog yn effeithiol gan gynnwys cynlluniau gwaith, cynlluniau asesu, cynlluniau gwersi;
  • Rhoi sylw i bwysigrwydd nodi cefndir neu broffil ieithyddol unigolion yn y grŵp, a sut i ddefnyddio'r wybodaeth i gynllunio darpariaeth a phrofiadau;
  • Dysgu sut i hyrwyddo dwyieithrwydd i bob unigolyn yn y grŵp a normaleiddio'r defnydd o'r Gymraeg mewn grwpiau iaith gymysg;
  • Cael cyfle ymarferol i ddefnyddio eu sgiliau addysgu dwyieithog newydd mewn sesiwn micro-ddysgu.

Asesiad

Ddim yn berthnasol.

Dilyniant

Nod Rhaglen Datblygu Staff Cenedlaethol Sgiliaith yw darparu hyfforddiant a rhaglen mentora arloesol i staff yn y sectorau addysg bellach a phrentisiaethau. Bwriad hynny yw cefnogi ymarferwyr i gynnig darpariaeth Gymraeg a dwyieithog i ddysgwyr a phrentisiaid.

Mae Rhaglen Hyfforddiant Datblygu Staff Sgiliaith yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd hyfforddiant i gefnogi dilyniant sgiliau dwyieithog ymarferwyr, a chynigia Cynllun Fentora Staff Sgiliaith gefnogaeth i ymarferwyr mewn sefyllfaoedd dysgu go iawn i fewnosod y Gymraeg/dwyieithrwydd yn y dosbarth neu yn y gweithle.

Ceir cyfleoedd hyfforddiant Sgiliaith sy’n addas i bawb yn y sector, beth bynnag eu sgiliau Cymraeg neu brofiad blaenorol.

Ariennir darpariaeth Sgiliaith ar gyfer staff addysg bellach a phrentisiaethau gan Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Porwch ein holl gyrsiau yma.

Mwy o wybodaeth

Lefel: N/A

Maes rhaglen:

  • Arbenigol / Arall

Dwyieithog:

Cyflwynir y cwrs hwn yn Gymraeg. Bydd holl ddeunydd y cwrs yn ddwyieithog a bydd mynychwyr yn gallu cyfrannu yn eu dewis iaith.