Sgiliaith
Ein nod yw cynnig cyngor ymarferol ar arferion da, adnoddau a hyfforddiant staff er mwyn gwella sgiliau a phrofiadau dysgwyr ym maes dwyieithrwydd.
Mae'r ddarpariaeth a gynigiwn yn cynnwys amrywiaeth o gyfleoedd i rai sy'n gweithio mewn gwahanol swyddi ac ar wahanol lefelau yn y sector addysg ôl-14 ddatblygu'n broffesiynol.
Rydym yn gefn i golegau wrth iddynt roi amrywiol gynlluniau gweithredu a strategaethau sy'n ymwneud â dwyieithrwydd ar waith mewn ymateb i ganllawiau'r Llywodraeth a sefydliadau eraill. Cynorthwywn uwch reolwyr y colegau wrth iddynt ystyried y camau datblygu nesaf. O ganlyniad, rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant proffesiynol mewn addysgu dwyieithog ac ymgorffori'r Gymraeg i staff y colegau. Golyga'r datblygiad hwn y gall rhagor o staff gynnig addysg ddwyieithog i'w dysgwyr.
Mae'r ddarpariaeth fideo-gynadledda cyfrwng Cymraeg yn ategu prif genhadaeth Sgiliaith, gan gyfuno’r egwyddor o ehangu'r ddarpariaeth gwricwlaidd a gynigir yn Gymraeg neu'n ddwyieithog, yn y Gymraeg a’r Saesneg, gyda dulliau addysgu arloesol. Lansiwyd y ddarpariaeth fideo-gynadledda o Goleg Meirion-Dwyfor i ysgolion a cholegau allanol gyda chyllid prosiect CIF yn 2006. Mae gennym staff yn gweithio o Bwllheli a Dolgellau.

Cyrsiau Sgiliaith - Rhaglen Datblygu Staff Cenedlaethol
Bwriad Rhaglen Datblygu Staff Cenedlaethol Sgiliaith yw cefnogi ymarferwyr i gynnig darpariaeth Gymraeg a dwyieithog i ddysgwyr a phrentisiaid.
Ceir cyfleoedd hyfforddiant Sgiliaith sy’n addas i bawb yn y sector, beth bynnag eu sgiliau Cymraeg neu brofiad blaenorol.
Mae Rhaglen Hyfforddiant Datblygu Staff Sgiliaith yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd hyfforddiant i gefnogi dilyniant sgiliau dwyieithog ymarferwyr, a chynigia Cynllun Fentora Staff Sgiliaith gefnogaeth i ymarferwyr mewn sefyllfaoedd dysgu go iawn i fewnosod y Gymraeg/dwyieithrwydd yn y dosbarth neu yn y gweithle.
Cyflwynir y cyfleoedd datblygu gan Sgiliaith ar ran y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn dilyn ehangu eu rôl i gynnwys y sectorau Addysg Bellach a Phrentisiaethau a lansiad strategaeth genedlaethol newydd yn 2019. Ariennir y ddarpariaeth ar gyfer ymarferwyr yn y sector Addysg Bellach a Phrentisiaethau.
Mae rhagor o fanylion am gyfleoedd datblygu a mentora Sgiliaith i'w gweld isod.
- Cwrs Addysgeg Ddwyieithog i Diwtoriaid
- Twlcit Dwyieithrwydd i Aseswyr
- Twlcit Dwyieithrwydd i Diwtoriaid
- Ymwybyddiaeth Iaith yng Nghyd-destun Addysg yng Nghymru TAOR
- Modiwl MA ar Fethodoleg Addysgu Dwyieithog
- Gweithdy Mewnosod y Gymraeg
- Gweithdy ar Ddylunio Adnoddau Dwyieithog
- Cynllun Mentora
- Ymwybyddiaeth Iaith yng Nghyd-destun Addysg yng Nghymru, Cymraeg Gwaith
Lawr lwythwch ein prosbectws yma.
Adnoddau:
Dysgu o bell
Mae'r ddarpariaeth fideo-gynadledda cyfrwng Cymraeg yn ategu prif genhadaeth Sgiliaith, gan gyfuno'r egwyddor o ehangu'r ddarpariaeth gwricwlaidd a gynigir yn Gymraeg neu'n ddwyieithog, yn y Gymraeg a’r Saesneg, gyda dulliau addysgu arloesol.
Beth am fanteisio ar gyfle gwych i ehangu cwricwlwm Lefel A eich
ysgol neu goleg drwy gynnig darpariaeth arloesol sydd wedi derbyn gwobr
gan Gymdeithas y Colegau? Hoffech chi ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf
i gynnig pynciau fel Y Gyfraith, Gwleidyddiaeth, Seicoleg neu
Gymdeithaseg i fyfyrwyr eich chweched dosbarth? Defnyddiwn gyswllt fideo
sydd ag opsiynau hyblyg fel Chrome Box neu Skype i sicrhau bod y
dechnoleg yn addas ar eich cyfer.
Mae Coleg Meirion-Dwyfor a
Sgiliaith yn falch iawn eu bod wedi ennill Gwobr Beacon, a noddwyd gan
Jisc ac a ddyfarnwyd gan Gymdeithas y Colegau, am y Defnydd Gorau o
Dechnoleg ym maes Addysg Bellach. Dyfarnwyd y wobr iddynt am eu
Platfform Dysgu ac Addysgu Lefel A cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn ystod
2013-14. Mae hon yn wobr a gydnabyddir ledled y Deyrnas Unedig ac fe'i
dyfernir i sefydliad sydd wedi defnyddio technoleg i gael effaith
sylweddol ar y dysgu, gan gyflwyno'r cwricwlwm yn fwy effeithiol drwy
gyfrwng dulliau addysgu arloesol.
Y Cynnig
Cynigir
y ddarpariaeth am £738.32 y pen, ar yr amod bod rhwng 10 a 12 myfyriwr
yn y grŵp, gydag opsiwn aml-gyswllt (hyd at dair ysgol neu goleg a hyd
at bum ymweliad y flwyddyn).
Rydym hefyd yn cynnig mynediad i
Moodle a Google Classroom, bod yn bresennol mewn cyfarfodydd rhieni,
cyfrannu at ysgrifennu adroddiadau ysgol, a chynorthwyo gyda cheisiadau
UCAS.
- Lefel A/AS Seicoleg
- Lefel A/AS Y Gyfraith
- Lefel A/AS Cymdeithaseg
- Lefel A/AS Gwleidyddiaeth
Fideos
Ar sianel YouTube Sgiliaith, ceir fideos defnyddiol (i ddarlithwyr, ymarferwyr, rheolwyr a dysgwyr) sy'n sôn am y Gymraeg yn y sector addysg ôl-14, gan gynnwys:
Gwybodaeth am gyrsiau Sgiliaith, gwybodaeth am sut i hyrwyddo'r Gymraeg mewn sefydliadau addysg bellach, a fideos am fanteision y Gymraeg yn y gweithle.
Cysylltwch:
Coleg Meirion-Dwyfor,
Penrallt,
Pwllheli,
Gwynedd,
LL53 5EB
01758 704613
sgiliaith@gllm.ac.uk