Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

ILM Lefel 3 – Diploma mewn Arwain a Rheoli (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    30-34 wythnos, rhan amser

Gwnewch gais
×

ILM Lefel 3 – Diploma mewn Arwain a Rheoli (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)

Proffesiynol

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r Diploma Lefel 3 mewn Arwain a Rheoli'n ddelfrydol i unigolion sy'n ysgwyddo cyfrifoldebau rheoli ond nad ydynt wedi cael hyfforddiant ffurfiol, ac sydd o ddifrif ynghylch datblygu eu medrau.

Mae'n arbennig o addas i arweinwyr tîm sydd am gael dyrchafiad i'r lefel reoli nesaf, ac i reolwyr y mae gofyn iddynt arwain pobl drwy newid sefydliadol, toriadau cyllidebol neu sefyllfaoedd anodd eraill.

Gallwch ddewis astudio naill ai yn ein campws ym Mangor, neu yn y Ganolfan Rheolaeth ym Mhrifysgol Bangor.

Gofynion mynediad

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol, ond bydd y rhai a fydd yn dilyn y rhaglen yn:

  • Gweithio fel rheolwyr llinell gyntaf neu'n awyddus i gael gwaith fel rheolwyr
  • Meddu ar Sgiliau Sylfaenol, Llythrennedd a Rhifedd digonol er mwyn gallu elwa i'r eithaf o'r rhaglen
  • Cael cefnogaeth eu cyflogwyr, gyda neu heb nawdd
  • Cwblhau modiwlau'r Dyfarniad a'r Dystysgrif Lefel 3 yn rhan o'r Diploma, os yw hynny'n berthnasol.

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Darlithoedd
  • Gwaith grŵp
  • Ymarferion chwarae rôl
  • Cwisiau
  • Cyflwyniadau

Asesiad

Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Aseiniadau seiliedig ar waith
  • Adroddiadau rheoli
  • Cyflwyniadau llafar
  • Adolygiadau adfyfyriol

Dilyniant

Os gwnewch gwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallwch fynd ymlaen i ddilyn cwrs pellach neu wneud cynnydd yn eich gwaith. Os ydych eisoes yn rheolwr, bydd y cwrs yn eich helpu i fod yn rheolwr effeithiol ac effeithlon. Byddwch yn datblygu'ch arferion proffesiynol ac mae'n bosib y gallwch anelu at gael dyrchafiad yn rheolwr canol.

Yn addysgol, y cam rhesymegol nesaf fyddai cwblhau Dyfarniad Lefel 4 yr ILM mewn Arwain a Rheoli. Bydd y dyfarniad hwn yn eich paratoi i ysgwyddo cyfrifoldebau rheolwr canol. Wedyn, gallech fynd ymlaen i ddilyn rhaglen Dyfarniad, Tystysgrif a Diploma Lefel 5 mewn Arwain a Rheoli a gynigir yng Ngrŵp Llandrillo Menai.

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

cysylltwch â ilm@gllm.ac.uk

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Proffesiynol

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Busnes a Rheoli

Dwyieithog:

n/a

Busnes a Rheoli

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr yn siarad mewn ystafell ddosbarth