Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Tystysgrif Lefel 3 ILM mewn Hyfforddi Effeithiol (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Abergele
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    6 diwrnod

Gwnewch gais
×

Tystysgrif Lefel 3 ILM mewn Hyfforddi Effeithiol (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)

Proffesiynol

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Y manteision i unigolion

Gwybod beth sydd ei angen i fod yn hyfforddwr effeithiol

Deall beth yw rôl a chyfrifoldebau hyfforddwyr effeithiol

Dysgu am ddull hyfforddi cydnabyddedig, ac am yr adnoddau a'r technegau sy'n ei gefnogi

Rhoi eich sgiliau newydd ar waith a chynnal sesiynau hyfforddi dan oruchwyliaeth

Dadansoddi eich perfformiad hyfforddi er mwyn gwella

Y manteision i gyflogwyr

Defnyddio hyfforddiant effeithiol i wella perfformiad eich sefydliad

Sicrhau bod gan yr unigolion a ddatblygwch yn hyfforddwyr sgiliau, y wybodaeth a'r ddealltwriaeth sydd arnynt eu hangen

Gwella'r diwylliant hyfforddi yn eich sefydliad drwy ddatblygu hyfforddwyr gwirioneddol effeithiol


Gofynion mynediad

Mae'r Dystysgrif mewn Hyfforddi Effeithiol wedi'i chynllunio i ddysgwyr ar bob lefel sydd am feithrin gwybodaeth a sgiliau hyfforddi effeithiol mewn cyd-destun sefydliadol. Mae'n ddelfrydol i hyfforddwyr newydd neu brofiadol.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Darlithoedd
  • Gwaith grŵp
  • Ymarferion chwarae rôl
  • Cwisiau
  • Cyflwyniadau

Cyflwynir y sesiynau yn Saesneg, a Saesneg yw iaith mwyafrif adnoddau'r sesiynau, er bod rhai adnoddau ar gael yn Gymraeg. Gellir cwblhau/cyflwyno'r aseiniad a'r portffolio o dystiolaeth yn Gymraeg.

Asesiad

Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

- Aseiniad seiliedig ar waith

- Portffolio'n cynnwys dyddiadur hyfforddi a dyddiadur adfyfyriol

Dilyniant

Bydd y cymhwyster hwn yn cynnig cyfleoedd i symud ymlaen i gael cymwysterau eraill fel:

  • Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 3 ILM mewn Arwain a Rheoli
  • Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 5 ILM mewn Hyfforddi a Mentora

Gwybodaeth campws Abergele

Yn ystod y cwrs, byddwch yn astudio tri modiwl ILM:

Deall beth yw arferion da o ran hyfforddi mewn cyd-destun sefydliadol

– Pwrpas yr uned hon yw galluogi dysgwyr i ddeall beth yw arferion da o ran rhoi hyfforddiant yn y gweithle.

Ymgymryd â chyfnod estynedig o hyfforddi mewn cyd-destun sefydliadol

– Pwrpas yr uned hon yw galluogi dysgwyr i ddangos eu gallu i roi hyfforddiant yn y gweithle.

Adfyfyrio ar sgiliau hyfforddi mewn cyd-destun sefydliadol

– Pwrpas yr uned hon yw galluogi dysgwyr i adfyfyrio ar eu gallu i roi hyfforddiant yn y gweithle.⁠ ilm@gllm.ac.uk

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Proffesiynol

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Busnes a Rheoli

Dwyieithog:

n/a

Busnes a Rheoli

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr yn siarad mewn ystafell ddosbarth