Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dyfarniad Lefel 3 Highfield mewn Archwilio ac Arolygu Effeithiol

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Abergele, Llandrillo-yn-Rhos, Dolgellau
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    1 diwrnod

Gwnewch gais
×

Dyfarniad Lefel 3 Highfield mewn Archwilio ac Arolygu Effeithiol

Cyrsiau Byr

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cymhwyster hwn wedi'i anelu at oruchwylwyr, arweinwyr tîm, cogyddion, staff sicrwydd ansawdd a rheolwyr sy'n gweithio mewn amrywiaeth o ddiwydiannau lle cynhelir gweithgareddau dilysu, archwilio (gan gynnwys archwilio mewnol ac archwilio cyflenwyr) neu arolygu.

Costio £170.


Gofynion mynediad

Nid oes rhagofynion ar gyfer y cymhwyster hwn. Fodd bynnag, argymhellir bod gan yr ymgeiswyr wybodaeth dechnegol addas am yr arferion a'r gweithdrefnau perthnasol a fydd yn destun archwiliad/arolygiad. Argymhellir bod gan ddysgwyr Lefel 2 o leiaf mewn llythrennedd a rhifedd, neu gymwysterau cyfwerth. Mae'r cymhwyster wedi ei gymeradwyo ar gyfer ei gyflwyno i'r rhai sy'n 16 oed a throsodd.

NB: rhaid i bob dysgwr gael profiad o Ddiogelwch Bwyd ar lefel 3 (neu brofiad cyfatebol)

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfrwng darlithoedd, gwaith grŵp a gweithgareddau unigol.

Asesiad

Asesir y cymhwyster drwy bapur arholiad amlddewis 30 cwestiwn wedi'i osod a'i farcio'n allanol. Hyd yr arholiad yw 1 awr. Er mwyn llwyddo, rhaid i'r dysgwyr ateb 18 o'r 30 cwestiwn yn gywir. Bydd dysgwyr yn cael gradd rhagoriaeth os byddant yn ateb o leiaf 24 o'r 30 cwestiwn yn gywir.

Dilyniant

Ar ôl cwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus, os ydynt yn dymuno, gall dysgwyr (yn dibynnu ar y diwydiant y maent yn gweithio ynddo) barhau â'u datblygiad drwy gwblhau cymhwyster Lefel 4 Highfield mewn Rheoli Diogelwch Bwyd mewn Arlwyo.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Lletygarwch ac Arlwyo

Lletygarwch ac Arlwyo

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Lletygarwch ac Arlwyo

Cogydd yn coginio mewn cegin