Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Tystysgrif Addysg Uwch mewn Perfformio ar gyfer Llwyfan a Sgrin (yn amodol ar ddilysu a chymeradwyaeth)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1 blwyddyn. Hefyd ar gael ar sail fodiwlaidd.

Gwnewch gais
×

Tystysgrif Addysg Uwch mewn Perfformio ar gyfer Llwyfan a Sgrin (yn amodol ar ddilysu a chymeradwyaeth)

Graddau (Addysg Uwch)

Llawn Amser

Mae dwy ffordd o wneud cais i ddilyn cwrs addysg uwch llawn amser - un ai trwy UCAS neu'n uniongyrchol i'r coleg.

Gwneud cais trwy UCAS:
Ni allwch wneud cais am y cwrs hwn drwy UCAS.

Gwneud Cais i'r Coleg:
Os mai'r coleg yw'ch unig ddewis, neu os ydych eisoes yn meddu ar y cymwysterau neu'r profiad i fodloni gofynion eich cwrs, dylech gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Llandrillo-yn-Rhos

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r rhaglen hon yn addas i fyfyrwyr sydd am ddilyn gyrfa ym maes actio.

Mae'r cwrs yn flwyddyn o hyd ac yn rhoi sylfaen gref i fyfyrwyr o ran meithrin dulliau actio, technegau perfformio, disgyblaeth annibynnol ac ymarfer proffesiynol. Y bwriad yw datblygu actorion amryddawn a'u paratoi i fynd ymlaen i astudio mewn coleg drama achrededig.

Mae'r cwrs yn cynnig nifer o fodiwlau craidd sy'n ymwneud â datblygiad proffesiynol ac sy'n arbenigo ar feysydd megis Testunau Clasurol, Technegau Clyweliad, Actio i'r Camera, Llais a Symudiadau.

Ffioedd

Ewch i'n tudalen ffioedd cyrsiau i gael gwybodaeth am ffioedd ein cyrsiau gradd llawn amser a rhan-amser.

Cymorth Ariannol

Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.

Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).

Costau ychwanegol

Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig â'r canlynol:

  • Mae'n bosibl y bydd taith i o leiaf ddau berfformiad proffesiynol ym mhob blwyddyn academaidd, felly bydd gofyn i'r myfyriwr dalu am docynnau.
  • Rhaid gwisgo dillad proffesiynol (crys T du, trowsus loncian du ac esgidiau/trenyrs du) ym mhob sesiwn
  • Dylid ystyried neilltuo oddeutu £200 ar gyfer teithiau allanol.

Gwybodaeth am fodiwlau

Mae gwybodaeth fanylach am fodiwlau i'w gweld yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol am y Campws / Cwrs.'

Dyddiad cychwyn

Mis Medi

Gofynion mynediad

Gofynion Academaidd

⁠Bydd gofyn i ymgeiswyr ddod i gyfweliad anffurfiol a chlyweliad byr.

  • Diploma Estynedig, Bagloriaeth Ryngwladol, MYNEDIAD i AU neu NVQ Lefel 3
  • Derbynnir llawer o gymwysterau ychwanegol o Gymru, Lloegr a'r Alban i gefnogi'r pwyntiau UCAS yn ogystal â'r pwnc perthnasol, megis Bagloriaeth Cymru.
  • TGAU Mathemateg/Rhifedd, gradd C/4 neu uwch, neu lefel gyfatebol Sgìl Allweddol/Hanfodol.
  • Ar gyfer ymgeiswyr heb y cymwysterau hyn, bydd angen dangos tystiolaeth o sgiliau rhifedd ar lefel addas i fodloni gofynion y rhaglen yn llwyddiannus. Mae cymwysterau rhyngwladol cyfwerth yn dderbyniol

Gydag unrhyw gymhwyster sy'n ymwneud â pherfformio, gellir rhoi ystyriaeth hefyd i brofiad perthnasol yn y diwydiant.

Gofynion Ieithyddol

  • TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Saesneg neu Gymraeg, iaith gyntaf
  • Dylai unrhyw raddau, diplomâu neu dystysgrifau cymwys fod wedi'u haddysgu a'u hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg, neu
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 4, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 5.5 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.0), neu safon cyfwerth

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno gan arbenigwyr ar Actio, Symudiadau a Llais. Bydd gan y rhain brofiad o weithio yn y diwydiant a gwybodaeth o'r pwnc sy'n adlewyrchu datblygiadau a newidiadau yn y maes perfformio cyfoes.

Byddwch yn astudio am oddeutu 18 awr yr wythnos mewn gweithdai a arweinir gan diwtoriaid, darlithoedd, seminarau ac ymarferion, yn ogystal ag astudio'n annibynnol.

Mae'r niferoedd mewn grwpiau'n aml yn is nag mewn prifysgolion, felly gall aelodau staff roi sylw unigol i chi.

Mae gennym gysylltiadau cryf â'r diwydiant creadigol a all ddarparu gweithdai a chynnig cyfleoedd i'n dysgwyr. Bydd cyfleoedd hefyd i fynd i weld cynyrchiadau byw yn y Theatr.

Amserlen

  • Llawn amser: 1 blwyddyn, 2 ddiwrnod yr wythnos (fel arfer 9am - 5pm)

Cyswllt:

Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:

Emma Bailey (Rhaglen Arweinydd): bailey1e@gllm.ac.uk

Celine Rea (Gweinyddiaeth): rea1c@gllm.ac.uk

Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk

Asesiad

  • Adroddiad
  • Astudiaeth Achos
  • Cyflwyniad / Viva Voce
  • Fideo Ymarferol
  • Log Actor
  • Portffolio Proffesiynol
  • Poster Academaidd
  • Adnodd Ar-lein
  • Ffilm arddangos
  • Archwiliad Sgiliau
  • CDP (Cynlluniau Datblygu Personol)

Adborth

Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.

Dilyniant

Bydd y cwrs yn rhoi sylfaen gref i chi ym maes Actio ac yn eich paratoi ar gyfer un ai clyweliadau i golegau drama achrededig neu astudiaethau lefel gradd mewn prifysgol, neu i symud ymlaen i brentisiaeth neu swydd yn y diwydiant.

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Am bob 10 credyd, dylai myfyrwyr ymgysylltu â thua 100 o oriau tybiannol o ddysgu. Bydd hyn oddeutu 30% o gyswllt dysgu uniongyrchol a 70% o ddysgu annibynnol i fyfyrwyr.

Blwyddyn 1 (Lefel 4)

Diwydiant y Celfyddydau Perfformio (15 credyd, craidd)

Mae'r modiwl hwn yn datblygu dealltwriaeth myfyrwyr o'r prif faterion sy'n ymwneud â gweithio yn y celfyddydau perfformio ac yn edrych ar sut mae goroesi a ffynnu yn y diwydiant. Trafodir cyflogadwyedd, y gallu i gynnal eich hun, rheoli arian a phwysigrwydd cynyddol marchnata ar-lein ac oddi ar lein. Bydd myfyrwyr yn dysgu sut mae diwydiant y celfyddydau perfformio yn gweithio a pha gamau sydd eu hangen i fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth. (Adroddiad neu Astudiaeth Achos, Cyflwyniad / Viva Voce, Poster Academaidd, Adnodd Ar-lein)

Datblygiad proffesiynol (15 credyd, craidd)

Yn y modiwl hwn, byddwch yn edrych ar wahanol ffyrdd o gael gwaith yn eich maes arbenigol, gan ddod i wybod sut i gyflwyno'ch hun yn y farchnad waith a chychwyn ar y daith o ddatblygiad proffesiynol. Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn, bydd myfyrwyr wedi gwneud penderfyniadau ynghylch eu galwedigaeth ac wedi dangos bod ganddynt yr annibyniaeth sy'n angenrheidiol i lwyddo mewn diwydiant creadigol. (Adroddiad neu Astudiaeth Achos, Cyflwyniad / Viva Voce, Portffolio Proffesiynol, Archwiliad Sgiliau, Cynlluniau Datblygiad Personol)

Actio 1 (15 credyd, gorfodol)

Yn y modiwl hwn bydd myfyrwyr yn meithrin y sgiliau technegol a deongliadol sydd eu hangen i berfformio mewn amrywiaeth o gyd-destunau. Mae'r pynciau a drafodir yn cynnwys: paratoi i berfformio, dadansoddi testun, technegau ymarfer a pherfformio, egwyddorion y broses actio a dulliau ymarfer. Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i ddatblygu cymeriadau yn ogystal â chael gwerthfawrogiad o ba mor heriol a chymhleth yw rhoi perfformiadau sy'n argyhoeddi. (Fideo Ymarferol, Log Actor, Poster Academaidd)

Llais a Lleferydd i Actorion (15 credyd, gorfodol)

Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i hanfodion perfformio lleisiol a sut y caiff sain ei ffurfio'n ffisiolegol. Y pynciau a drafodir yn y modiwl hwn yw'r broses ffisiolegol o ffurfio sain, y proses ffisegol o ynganu, iechyd lleisiol, cynhyrchu llais a mynegiant lleisiol. (Adroddiad neu Astudiaeth Achos, Cyflwyniad / Viva Voce, Fideo Ymarferol)

Actio i'r camera (15 credyd, gorfodol)

Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i ofynion ymarferol ac artistig actio ar gyfer y sgrin. Bydd hyn yn cynnwys deall yr heriau sydd ynghlwm â gweithio ar set, datblygu technegau addas ar gyfer actio ar gyfer camera, ymarfer deunydd a pherfformio o flaen camera. (Cyflwyniad / Viva Voce, Fideo Ymarferol, Log Actor, Tâp Arddangos)

Symud wrth Actio (15 credyd, gorfodol)

Nod y modiwl hwn yw rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o bwysigrwydd datblygu gallu'r corff i fynegi teimladau wrth berfformio. Bydd myfyrwyr yn meithrin sgiliau sylfaenol o ran ystwythder a chryfder. Yn ei dro bydd hyn yn datblygu eu sgiliau a'u presenoldeb corfforol. Mae'r modiwl hwn yn trafod sut mae adnabod cryfderau a meysydd i'w datblygu o ran sgiliau corfforol, dulliau symud, adnabod rhaglen o ymarferion i ddatblygu sgiliau somatig a pherfformio deunyddiau sy'n seiliedig ar symudiadau. (Fideo Ymarferol, Log Actor, Cynlluniau Datblygiad Personol)

Mynd am glyweliad (15 credyd, gorfodol)

Mae'r uned hon yn edrych ar sut mae paratoi am glyweliad, pa un ai am waith proffesiynol neu gwrs lefel uwch. Rhan hanfodol o'r broses yw dewis deunydd addas i gael ei ymarfer a'i berffeithio i ddangos y perfformiwr ar ei orau. Mae'r modiwl hwn yn trafod technegau i'w defnyddio mewn sefyllfaoedd clyweled i sicrhau bod myfyrwyr yn cael y cyfle gorau posib i wneud eu gorau. Yn olaf, bydd myfyrwyr yn meithrin dealltwriaeth o sut i ymddwyn a chyflwyno eu hunain mewn clyweliad. (Fideo ymarferol, Log Actor, Adnodd ar-lein, Ffilm Arddangos)

Actio Clasurol (15 credyd, gorfodol)

Bwriad yr uned hon yw trafod sut i ddehongli testunau clasurol a chyflwyno'r actor i'r broses o ddod â thestun chwyddedig yn fyw. Mae'r pynciau a drafodir yn yr uned hon yn cynnwys cyfuno dealltwriaeth o'r cyd-destun â gwaith ymarferol i ddehongli testun, a datblygu adnoddau'r actor yn ddychmygus, yn lleisiol ac yn gorfforol i fodloni'r her ddramatig sy'n rhan o destunau cymhleth. (Cyflwyniad / Viva Voce, Fideo Ymarferol, Log Actor)

Astudio Maes Arbenigol (Gorfodol) Yn ystod y modiwl hwn, caiff y myfyrwyr afael da ar hanes eu maes arbenigol, gan ddysgu rhagor am ei wreiddiau. Drwy wneud astudiaeth academaidd o'r dull y maent wedi'i ddewis, byddant hefyd yn meithrin sgiliau cyflwyno a chyfleu gwybodaeth, yn mireinio eu llais fel artistiaid, yn magu hyder ac yn cael gwybodaeth hanesyddol bwysig a fydd yn ddefnyddiol iddynt drwy gydol eu gyrfaoedd. (Fideo Ymarferol, Astudiaeth Achos, Cyflwyniad/Viva Voce)

Dyfeisio Darnau ar gyfer Theatr a Pherfformiad (Gorfodol) Mae'r cysyniad o ddyfeisio perfformiad wedi bodoli ers llawer o flynyddoedd. Fodd bynnag, ym maes y celfyddydau perfformio sy'n newid ac yn esblygu byth a hefyd, mae dyfeisio wedi datblygu i fod yn broses gydweithredol ehangach y gall y tîm creadigol cyfan fod yn rhan ohoni. Gall gynnwys rhai sy'n gwneud sawl swydd ym myd y theatr – cyfarwyddwyr, awduron, perfformwyr, coreograffwyr, cyfansoddwyr, dylunwyr, technegwyr, y gynulleidfa a hyd yn oed y gofod perfformio ei hun. Mae darnau a ddyfeisiwyd yn cael eu defnyddio fwyfwy'n ddull cyfathrebu pwysig ac effeithiol er mwyn ennyn diddordeb cynulleidfaoedd mewn materion cymdeithasol cyfoes; mae wedi datblygu'n arf pwerus. (Fideo Ymarferol, Astudiaeth Achos, Cyflwyniad/Viva Voce, Log Actor)

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)

Lefel: 4

Maes rhaglen:

  • Celfyddydau Perfformio

Sefydliad dyfarnu: Edexcel

Dwyieithog:

n/a

Celfyddydau Perfformio

Myfyriwr ac athro mewn theatr

Sefydliad dyfarnu