Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos, Dolgellau - CaMDA (Adeiladu a Pheirianneg)
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    3 awr yr wythnos, 10 wythnos.

Cofrestru
×

DIY - Plymio

Oedolion a Rhan-amser

Coleg Meirion-Dwyfor, Dolgellau (CAMDA)
Cwrs nos: 14/09/26, 5:00 YH | Cost: £180.00
Coleg Meirion-Dwyfor, Dolgellau (CAMDA)
Cwrs dydd: 16/09/26, 1:15 YH | Cost: £180.00
Campws Llandrillo-yn-Rhos
Cwrs nos: 16/09/26, 6:00 YH | Cost: £180.00
Campws Llandrillo-yn-Rhos
Cwrs nos: 06/01/27, 6:00 YH | Cost: £180.00
Coleg Meirion-Dwyfor, Dolgellau (CAMDA)
Cwrs byr: 14/06/27, 9:30 YB | Cost: £180.00

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer perchnogion tai a phobl a diddordeb mewn DIY sydd am daclo gwaith cynnal a chadw sylfaenol heb orfod galw am blymwr. P’un a ydych am drwsio gollyngiad neu osod teclyn newydd, dyma gyflwyniad ymarferol i ddechreuwyr.

Beth i’w ddisgwyl: Gweithdy ymarferol sy’n canolbwyntio ar sgiliau real. Byddwch yn treulio llai o amser ar waith yn y dosbarth a mwy o amser yn defnyddio offer, gan sicrhau eich bod yn gadael gyda’r hyder i ddechrau eich prosiectau eich hun yn ddiogel.

Yn Nolgellau byddwch yn astudio:

  • Gwaith Pibellau Copr: Meistroli’r hanfodion: mesur, torri, a sodro uniadau.
  • Gwaith Pibellau Plastig: Deall systemau modern gwthio i ffitio (push-fit) a chywasgu.
  • Cynnal a Chadw Cyffredinol: Tasgau DIY hanfodol, fel trwsio tapiau a thrin problemau plymio cyffredin yn y cartref.

Yn Llandrillo-yn-Rhos byddwch yn astudio:⁠

  • Uned iechyd a diogelwch
  • Plygu copr, sodro a defnyddio gwahanol ffitiadau.
  • Ffabrigo gwahanol fframiau gan ddefnyddio gwahanol fathau o bibellau.
  • Tynnu ac ailosod rheiddiaduron llawn dŵr.
  • Gosod cwteri.
  • Trwsio tapiau a thoiledau.

Gofynion mynediad

Nid oes unrhyw anghenion mynediad ar gyfer y cwrs.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy sesiynau gweithdy fydd yn cyfuno theori â gwaith ymarferol.

Asesiad

Arsylwadau a thasgau ymarferol.

Dilyniant

  • Sylfaen mewn Plymio a Thrydanol
  • Sylfaen mewn Adeiladwaith a Pheirianneg Gwasanaethau

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Oedolion a Rhan-amser

Lefel: 1

Maes rhaglen:

  • Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Dwyieithog:

n/a

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Dysgwyr yn sicrhau fod y wal frics yn lefel