Sgiliau Cyfathrebu mewn Amgylchedd Meddygol Lefel 2
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Abergele
- Math o gwrs:Rhan amser
- Dull astudio:Rhan amser
- Lefel:2
- Maes rhaglen:Busnes a Rheoli
Busnes a Gweinyddiaeth - Hyd:
3 awr yr wythnos am 15 wythnos - £159
Disgrifiad o'r Cwrs
Nod yr uned hon yw galluogi'r dysgwr i feithrin gwybodaeth a sgiliau er mwyn cyfathrebu'n briodol ag ystod eang o bobl mewn amgylchedd meddygol. Arfogi'r dysgwyr â sgiliau a hyder i gyfathrebu wyneb yn wyneb, yn ysgrifenedig a heb siarad, ac i gynyddu dealltwriaeth dysgwr o bwysigrwydd cyfathrebu a'r ffactorau a all wneud cyfathrebu'n anodd. Byddwch y dysgwr yn datblygu sgiliau i lunio dogfennau ysgrifenedig priodol mewn amgylchedd meddygol.
Bydd cwblhau'r cwrs hwn yn eich arfogi â sgiliau pwysig ar gyfer meddygol mewn gwaith gweinyddu meddygol. Gall eich cynorthwyo i lwyddo mewn rôl weinyddol o unrhyw fath mewn sefydliad Gwasanaeth Iechyd Gwladol o unrhyw faint yn cynnwys: Ysgrifennydd, Derbynnydd, Gweinyddwr, Cynorthwyydd Personol, Clerc Cofnodion Meddygol a Chlerc Ward.
Dyddiadau Cwrs
Abergele
Dyddiad | Amser | Dyddiau | Oriau | Wythnosau | Cost | Archebion | Cod |
---|---|---|---|---|---|---|---|
01/03/2023 | 13:00 | Dydd Mercher | 3.00 | 15 | £159 | 0 / 12 | EXG142697E |
Gofynion mynediad
Ystyrir defnydd da o iaith (Saesneg) yn fanteisiol gyda phwyslais arbennig ar gywirdeb wrth sillafu.
Cyflwyniad
Sesiynau addysgu gan ddefnyddio trafodaethau, ymarferion/gweithgareddau ymarferol, taflenni gwaith, asesiadau, cyfarwyddiadau uniongyrchol, sesiynau darlithio, fideos a dulliau dysgu eraill
Bydd gwaith cartref a dysgu annibynnol yn rhan annatod o'r cwrs.
Asesiad
Bydd yr holl waith yn cael ei asesu drwy gyfuniad o’r dulliau canlynol; portffolio o dystiolaeth; Asesiadau; Cwestiynau atebion byr.
Dilyniant
Dilyniant:
- Sgiliau Gweinyddol mewn Amgylchedd Meddygol L2
- Trawsgrifiad clywedol ym maes meddygaeth L2
- Gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol fel Gweinyddwr Meddygol L2
- Terminoleg Feddygol ar gyfer Gweinyddwyr L2