Dyfarniad Lefel 3 City & Guilds yn y Gofynion ar gyfer Dylunio a Gosod Cyfarpar Gwefru Cerbydau Trydan mewn Lleoliadau Domestig a Masnachol Bach (2921-34)
Manylion Allweddol
-
Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
-
Dull astudio:Rhan amser
-
Hyd:
Un diwrnod yr wythnos am dair wythnos
Dyfarniad Lefel 3 City & Guilds yn y Gofynion ar gyfer Dylunio a Gosod Cyfarpar Gwefru Cerbydau Trydan mewn Lleoliadau Domestig a Masnachol Bach (2921-34)
Cyrsiau Byr
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'n addas i drydanwr profiadol sydd â diddordeb mewn deall sut i ddylunio a gosod yr ystod o gyfarpar a systemau cyflenwi cerbydau trydan sydd ar gael.
Fe'i cynlluniwyd yn benodol ar gyfer y rhai sydd eisoes yn gallu dylunio cylchedau pŵer rheiddiol foltedd isel, ac mae'n canolbwyntio ar osod cyfarpar cyflenwi cerbydau trydan mewn safleoedd domestig a masnachol bach.
Drwy gwblhau'r cymhwyster, gall trydanwyr wella eu harbenigedd ym maes cyfarpar gwefru cerbydau trydan, a'r nod yw sicrhau gosodiadau diogel ac effeithlon i fodloni'r cynnydd mewn galw.
Gofynion mynediad
Diploma NVQ Lefel 3 City & Guilds mewn Gosod Systemau a Chyfarpar Electrodechnegol (Adeiladau, Strwythurau a'r Amgylchedd) (2357)
neu
Cerdyn Aur ECS a gyhoeddwyd gan JIB neu SJIB - Trydanwr Gosodiadau, Trydanwr Cynnal a Chadw, neu Drydanwr Domestig
Cyflwyniad
Gweithdy ymarferol a chyflwyniad PowerPoint ar gyfer yr elfen theori
Asesiad
Prawf amlddewis ar-lein
Dilyniant
Ar ôl cwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus, gall dysgwyr fynd ymlaen i gwblhau Dyfarniad Lefel 4 City & Guilds mewn Dylunio a Dilysu Gosodiadau Trydan yn ogystal â'r cymwysterau DPP eraill sydd ar gael yn y maes Electrodechnegol.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
N/A
Maes rhaglen:
- Cyfrif Dysgu Personol
- Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
