Cwrs Diweddaru DPP - CISRS i Sgaffaldwyr
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Canolfan Isadeiledd, Sgiliau a Thechnoleg (CIST) - Llangefni
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
2 ddiwrnod
Cwrs Diweddaru DPP - CISRS i SgaffaldwyrCyrsiau Byr
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i cist@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Lluniwyd y cwrs hwn i ddiweddaru gwybodaeth bresennol y dysgwyr, i sicrhau bod y dysgwyr yn gwybod am unrhyw newidiadau mewn deddfwriaeth ac arferion gweithio da ac i gynnig hyfforddiant ychwanegol er mwyn sicrhau bod eu sgiliau yn cyd-fynd â chynnwys y cyrsiau CISRS cyfredol i Sgaffaldwyr ac Uwch Sgaffaldwyr.
Cynnwys y cwrs
- Iechyd a Diogelwch
- Cyffredinol ar Safle Arferion amgylcheddol da
- Archwilio sgaffald Hyfforddiant Tŵr Aloi
- Arfer da gyda Sgaffald
- Cyfrifoldebau Gwaith Dros Dro,
- Prawf Iechyd a Diogelwch ac Ymddygiad ym maes gwaith Sgaffald
Gofynion mynediad
Mae’r cwrs hwn yn addas i rai sydd â cherdyn Sgaffaldiwr a Sgaffaldiwr Uwch CISRS yn barod ac sy'n dymuno adnewyddu eu cardiau. Nodwch - dim ond y rhai sydd â chardiau sydd wedi dod i ben, neu gardiau a fydd yn dod i ben ddim mwy na chwe mis cyn dechrau'r cwrs sy'n gymwys i fynychu'r cwrs hwn.
Cyflwyniad
- Cyflwyniadau yn y dosbarth
- Gweithgareddau ymarferol
- Gwaith gŵrp
Asesiad
- Prawf Iechyd a Diogelwch ac Ymddygiad ym maes gwaith Sgaffald
Dilyniant
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
N/A
Maes rhaglen:
- Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
- Iechyd a Diogelwch
Dwyieithog:
Na
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Iechyd a Diogelwch
