Tystysgrif Lefel 4 CIM mewn Marchnata Proffesiynol a Digidol
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Ar-lein
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
Byddwch yn astudio pedwar modiwl i gwblhau'r cymhwyster hwn, dros gyfnod o flwyddyn academaidd (tri thymor).
Y modiwlau y byddwch yn eu hastudio yw:
Effaith Marchnata
Cynllunio Ymgyrchoedd Integredig
Marchnata cynnwys
Marchnata drwy'r Cyfryngau Cymdeithasol
Cyflwynir y modiwlau hyn yn wythnosol, fel arfer ar fore Mawrth, am 8 i 10 wythnos y modiwl, ac fe'u hasesir trwy arholiad amlddewis ar-lein.
Cynigir tri chyfle i ddechrau'r cwrs bob blwyddyn, tm mis Medi, mis Ionawr a mis Ebrill.
Tystysgrif Lefel 4 CIM mewn Marchnata Proffesiynol a DigidolProffesiynol
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Byddwch yn cwblhau pedwar modiwl (sydd hefyd yn gymwysterau annibynnol) i gyflawni'r cymhwyster hwn:
Effaith Marchnata: Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar rôl marchnata yn y sefydliad. Byddwch yn edrych ar yr amgylchedd marchnata, ymddygiad cwsmeriaid yn yr oes ddigidol, ymchwil i'r farchnad a'r broses o gynllunio gwaith marchnata.
Cynllunio Ymgyrchoedd Integredig: Byddwch yn edrych ar y dirwedd farchnata sy'n newid yn gyflym, ac yn dysgu sut i greu ymgyrchoedd marchnata integredig ar draws gwahanol sianelau, ar-lein ac all-lein, a sut i fesur eu heffeithiolrwydd.
Marchnata cynnwys: Mae'r modiwl hwn yn darparu'r wybodaeth a'r sgiliau, megis sut y gellir defnyddio gwahanol fformatau cynnwys mewn ymgyrchoedd i gefnogi taith y cwsmer, a chynhyrchu cynllun cynnwys i gefnogi mentrau'r sefydliad.
Marchnata drwy'r Cyfryngau Cymdeithasol: Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio amrywiaeth o sianelau cyfryngau cymdeithasol a chynhyrchu cynnwys addas i wella gweithgareddau digidol sefydliad a byddwch yn meithrin y sgiliau i gynhyrchu cynllun cyfryngau cymdeithasol effeithiol a mesur ei ganlyniadau.
Mae'r cwrs hwn wedi'i anelu at y rhai sydd â rhywfaint o brofiad marchnata, naill ai mewn swydd farchnata neu lle mae marchnata'n rhan o'ch rôl.
Bydd y cwrs hwn yn rhoi hyder i chi ac yn gwella eich gwybodaeth am farchnata.
Gofynion mynediad
Bydd angen o leiaf blwyddyn o brofiad yn y diwydiant arnoch neu gymhwyster Lefel 3 perthnasol i astudio'r cwrs Tystysgrif mewn Marchnata Proffesiynol ar Lefel 4.
Fel arall, byddai Prentisiaeth Lefel 3 hefyd yn cael ei derbyn.
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs trwy wersi ar-lein a arweinir gan diwtor. Byddwch yn cael mynediad i'r gwersi hyn trwy Google Meet.
Cewch eich annog i rannu syniadau ac i gymryd rhan mewn gwaith grŵp trwy sesiynau rhyngweithiol.
Asesiad
Asesir y cymhwyster hwn ar-lein trwy arholiadau amlddewis. Cewch sefyll yr arholiadau gartref neu yn eich gweithle.
Mae'r asesiadau'n bodloni anghenion cyflogwyr, yn ymarferol, yn berthnasol ac yn addas i fusnesau.
Dilyniant
Mae Tystysgrif Lefel 4 CIM wedi'i chynllunio i gynnig dilyniant i bob cymhwyster Lefel 6 CIM.
Bydd cwblhau cymwysterau Lefel 4 CIM yn llwyddiannus yn rhoi i chi'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth i allu gweithredu fel 'Swyddog Marchnata' ac i gyflawni rôl farchnata broffesiynol hanfodol a llwyddiannus yn y gweithle.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Proffesiynol, Cyrsiau Byr
Lefel:
4
Maes rhaglen:
- Busnes a Rheoli
Sefydliad dyfarnu: Chartered Institute of Marketing
Sefydliad dyfarnu
