Carbon Monoxide/Dioxide Direct Analysis (CMDDA1)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:CIST Llangefni
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
2 ddiwrnod
Carbon Monoxide/Dioxide Direct Analysis (CMDDA1)Cyrsiau Byr
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae angen i beirianwyr nwy sy'n cael eu galw allan i ymdrin â gollyngiadau CO mewn cartrefi gael hyfforddiant mewn cynnal profion carbon deuocsid/ carbon monocsid. Yn aml, sonnir ar y newyddion am bobl yn cael eu gwenwyno â charbon monocsid, felly mae'r modiwl achrededig hwn yn bwysig iawn o ran diogelwch eich cwsmeriaid.
Dyddiadau Cwrs
CIST-Llangefni
Mae gofyn am gyfweliad cyn cofrestru ar gyfer y cwrs hwn. Ffoniwch ni ar 08445 460 460 am wybodaeth bellach.
Dyddiad | Amser | Dyddiau | Oriau | Wythnosau | Cost | Archebion | Cod |
---|---|---|---|---|---|---|---|
30/12/2023 | 08:30 | Hyblyg | 14.00 | 1 | £733 | 0 / 3 | D0018205 |
Gofynion mynediad
Rhaid i rai sy'n cael eu hyfforddi a'u hasesu ar y cwrs CMDDA1 feddu ar gymhwyster Diogelwch Nwy yn y Cartref (CCN1) neu gymhwyster Diogelwch Nwy LPG (CCLP1) neu gymhwyster NVQ neu QCF cyfatebol dilys, ynghyd ag offer priodol.
Cyflwyniad
Darperir llawlyfr yn ystod y cwrs. Yn ogystal, dylai gweithwyr fod yn gyfarwydd â BS EN 7967 Rhan 1–4. Caiff ymgeiswyr CMDDA1 eu hyfforddi a'u hasesu yn y meysydd a ganlyn:
- Profi a oes CO a CO2 yn yr amgylchedd
- Dadansoddi pa mor dda mae offer nwy'n llosgi mewn cartrefi, gan ddefnyddio dadansoddwyr nwy electronig, cludadwy:
- Arwyddion o fygdarthau
- Arogleuon
- Offer llosgi’n gollwng
- Rhoi synhwyrydd carbon monocsid ar waith
Asesiad
Asesiadau ymarferol a gwaith theori.
Dilyniant
Cyrsiau eraill yn y Grŵp.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
N/A
Maes rhaglen:
- Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Mae'r cwrs i'w gael yn ddwyieithog ar y campysau/lleoliadau canlynol :
- CIST Llangefni
Dwyieithog:
Cyflwynir y cwrs yn ddwyieithog. Asesir yn Saesneg yn unig.