Addurno Cacennau Lefel 1
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Math o gwrs:Rhan amser
- Dull astudio:Rhan amser
- Lefel:1
- Maes rhaglen:Lletygarwch ac Arlwyo
- Hyd:
34 wythnos, 3 awr yr wythnos
- Dwyieithog:n/a
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cwrs hwn yn addas i amrediad eang o fyfyrwyr sydd am feithrin sgiliau ym maes addurno cacennau a chrefft siwgr, naill ai i ddibenion swydd neu er diddordeb personol. Rhaid talu (oddeutu £60) i gofrestru gyda'r bwrdd dyfarnu.
Byddwch yn dysgu sut i wneud cacennau dathlu gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau:
- Gorchuddio a Pheipio ag Eisin Caled
- Llythrennu
- Siapiau eisin
- Stensilio
- Peipio Blodau
- Gorchuddio â Phast Siwgr
- Boglynnu a Chrimpio
- Modelu
- Dylunio a Theori
- Cacennau bach a Bisgedi
Gofynion mynediad
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol.
Yn y dosbarth, bydd gofyn i chi wisgo côt wen neu siaced cogydd.
Cyflwyniad
Byddwch yn dysgu mewn sesiynau ymarferol a thrwy gyfrwng arddangosiadau.
Asesiad
Asesu gwaith ymarferol ac adeiladu portffolio.
Dilyniant
Addurno Cacennau Lefel 2
A hoffech chi wneud cais am y cwrs hwn?
Gallwch wneud cais am lawer o gyrsiau yn uniongyrchol trwy'r wefan, neu lawrlwytho ffurflen gofrestru.
Cliciwch yma am wybodaeth ar sut i wneud cais.