Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

BA (Anrh) Technoleg a Chynhyrchu yn y Cyfryngau (Atodol)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser, Llawn Amser
  • Hyd:

    Llawn amser: 1 flwyddyn; Rhan-amser: 2 flynedd NEU drwy fodiwlau

    Dydd Iau a Dydd Gwener, 9am-5pm

  • Cod UCAS:
    5G5M
Cofrestru
×

BA (Anrh) Technoleg a Chynhyrchu yn y Cyfryngau (Atodol)

Cyrsiau Lefel Prifysgol

Llawn Amser

Mae dwy ffordd o wneud cais i ddilyn cwrs addysg uwch llawn amser - un ai trwy UCAS neu'n uniongyrchol i'r coleg.

Gwneud cais trwy UCAS:
Ni allwch wneud cais am y cwrs hwn drwy UCAS.

Gwneud Cais i'r Coleg:
Os mai'r coleg yw'ch unig ddewis, neu os ydych eisoes yn meddu ar y cymwysterau neu'r profiad i fodloni gofynion eich cwrs, dylech gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Mae'r system gwneud ceisiadau ar gau ar hyn o bryd.

Rhan Amser

Os ydych yn gwneud cais i astudio'n rhan-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Mae'r system gwneud ceisiadau ar gau ar hyn o bryd.

Disgrifiad o'r Cwrs

Bwriad y cwrs yw rhoi i'r myfyrwyr y sgiliau technegol, creadigol a damcaniaethol sy'n angenrheidiol i gynhyrchu cynnwys safonol ar gyfer y cyfryngau ar amrywiol lwyfannau, gan gynnwys fideo, sain, cyfryngau rhyngweithiol, a thechnolegau newydd. Nod arall y cwrs yw rhoi i'r myfyrwyr y wybodaeth a'r sgiliau sy'n angenrheidiol i weithio yn y cyfryngau a'r diwydiannau creadigol, gan bwysleisio'r angen i addasu i dechnolegau ac arferion newydd. Bydd gan y sawl sy'n graddio oddi ar y cwrs set amrywiol o sgiliau i'w paratoi ar gyfer ystod o yrfaoedd yn y cyfryngau a'r sectorau creadigol a thechnegol. Mae llwybrau gyrfa posibl yn cynnwys bod yn: Gyfarwyddwr, Golygydd, Gweithredwr Camera, Sinematograffydd, Cynorthwyydd Cynhyrchu, Goruchwyliwr Sgriptiau, Technegydd Theatr a Stiwdio, Rheolwr Llawr a Llwyfan, Awdur, Cynhyrchydd neu Ymchwilydd.

Blwyddyn 3 (Lefel 6)

  • Prosiect Copa
  • Prosiect Cydweithredol
  • Mentergarwch ac Ymarfer Proffesiynol
  • Moeseg y Cyfryngau

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.

Gofynion mynediad

Gofynion Academaidd:

  • Gradd Sylfaen (FdA) Technoleg a Chynhyrchu yn y Cyfryngau neu gymhwyster Lefel 5 cyfatebol

Pan fo myfyrwyr wedi cael seibiant o'u hastudiaethau ar ôl cwblhau eu Gradd Sylfaen, dylid gwneud ceisiadau am fynediad uniongyrchol trwy'r broses Trosglwyddo Credydau.

Gofynion Iaith:

  • TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf.
  • Ar gyfer ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad i Lefel 4: IELTS 5.5 neu'n uwch (heb ddim elfen yn is na 5.0)
  • Ar gyfer ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad i Lefel 5: IELTS 6.0 neu'n uwch (heb ddim elfen yn is na 5.5).

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Darlithoedd rhyngweithiol
  • Tiwtorialau
  • Modiwlau yn y gweithle
  • Siaradwyr gwadd
  • Dysgu myfyriwr ganolog
  • Amgylchedd dysgu rhithiol (MOODLE)

Byddwch yn dysgu'n anffurfiol drwy gymryd rhan, gan gael digon o gyfle i archwilio ar eich liwt eich hun a bod yn greadigol. Mae'n bosib hefyd y cewch brofiad gwaith yn y maes yn ystod y cwrs.

Amserlen

  • Llawn amser: 1 flwyddyn, 2 diwrnod yr wythnos (fel arfer 9am - 5 pm)
  • Rhan-amser: 2 flynedd, 1 diwrnod yr wythnos (fel arfer 9am - 5 pm)

Ffioedd

Ewch i'n tudalen ffioedd cyrsiau i gael gwybodaeth am ffioedd ein cyrsiau gradd llawn amser a rhan-amser.

Cymorth Ariannol

Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.

Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).

Costau Ychwanegol

Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig â'r canlynol:

  • deunyddiau i astudio'n annibynnol
  • ymweliadau allanol, e.e. ag amgueddfeydd neu arddangosfeydd
  • meddalwedd i allu gweithio gartref
  • mynediad at ddeunyddiau i'w gwerthuso a'u dadansoddi

Dyddiad cychwyn

Mis Medi

Cyswllt:

Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:

James Lehart (Rhaglen Arweinydd): lehart1j@gllm.ac.uk

David Clarke (Gweinyddiaeth): clarke1d@gllm.ac.uk

Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk

Asesiad

Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Portffolios unigol
  • Adroddiadau
  • Astudiaethau achos
  • Cyflwyniadau
  • Adroddiadau grwpiau
  • Cyflwyniadau grŵp
  • Traethawd Estynedig

Adborth

Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.

Dilyniant

Gall y cwrs hwn arwain at swydd mewn amrywiaeth o sefydliadau yn ogystal â chyfleoedd i astudio ymhellach. Dewis rhai graddedigion yw mynd i waith a dechrau ar yrfa yn y cyfryngau.

Mae cynhyrchwyr cyfryngau'n gweithio ym maes teledu, ffotograffiaeth, ffilmiau, radio, y we, graffeg, dylunio gemau, animeiddio, amlgyfryngau, ôl-gynhyrchu, newyddiaduriaeth a meysydd eraill.

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Mae'r cwrs yn cynnwys y modiwlau a ganlyn:

Prosiect Copa
Nod y modiwl hwn yw creu platfform i'r myfyrwyr archwilio a mireinio sgìl benodol ym maes y cyfryngau creadigol. Disgwylir i'r myfyrwyr nodi, archwilio, a chwblhau prosiect sy'n gysylltiedig â'r cyfryngau creadigol a fydd yn eu cefnogi eu hamcanion ar gyfer y dyfodol.

Prosiect Cydweithredol
Bydd y modiwl yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr gymryd rhan mewn prosiect cydweithredol sylweddol a fydd yn edrych ar agwedd ar y diwydiant cyfryngau o'u dewis hwy. Bydd y myfyrwyr yn cyfuno sgiliau a gwybodaeth o'u dysgu blaenorol i gynnig, cyflwyno, datblygu a chwblhau prosiect o safon broffesiynol. Drwy waith tîm, mae'r myfyrwyr yn rheoli eu hamserlenni eu hunain ac yn dilyn y dulliau y cytunwyd arnynt.

Mentergarwch ac Ymarfer Proffesiynol
Bydd y modiwl yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr i ymchwilio i arferion diwydiannol yn eu maes arbenigol a datblygu strategaethau effeithiol i farchnata i hyrwyddo eu gwaith eu hunain. Bydd y myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau proffesiynol a'u gallu i weithio ar eu liwt eu hunain, gan weithio ar y cyd â chleient.

Moeseg y Cyfryngau
Nod y modiwl hwn yw archwilio'r cysylltiad rhwng creadigrwydd a moeseg yn y cyfryngau a'r celfyddydau. Bydd y myfyrwyr yn dadansoddi cynrychioliadau ac arferion mewn ffilm, ffotograffiaeth a chyfryngau darlledu, gan edrych ar eu perthynas â pholisïau diwylliannol, y byd cyhoeddus, y berthynas rhwng gwledydd, ac amrywiaeth diwylliannol. Drwy gysylltu dulliau damcaniaethol mewn moeseg gyfoes â heriau moesegol y byd go iawn, bydd y myfyrwyr yn datblygu'r sgiliau i ymgysylltu'n feirniadol â chwestiynau moesegol sy'n berthnasol i yrfaoedd sy'n gysylltiedig â'r cyfryngau a'r celfyddydau.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Lefel Prifysgol

Lefel: 6

Maes rhaglen:

  • Y Cyfryngau, Teledu a Ffilm

Sefydliad dyfarnu: Prifysgol Bangor

Dwyieithog:

n/a

Y Cyfryngau, Teledu a Ffilm

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Y Cyfryngau, Teledu a Ffilm

Myfyrwyr yn defnyddio camera teledu

Sefydliad dyfarnu

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date