Cymdeithas Cyfrifwyr Siartredig (ACCA)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Ar-lein
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
10-12 wythnos fesul modiwl. 5-7 awr yr wythnos.
Cymdeithas Cyfrifwyr Siartredig (ACCA)Oedolion a Rhan-amser
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Hoffech chi gael gyrfa heriol a gwerth chweil ym maes cyfrifyddu, cyllid neu fusnes?
Mae'r galw am weithwyr proffesiynol cymwys ym maes cyfrifyddu yn parhau i dyfu yn y DU ac yn fyd-eang. Mae angen gweithwyr proffesiynol cyllid medrus ar sefydliadau o bob maint i gefnogi gwneud penderfyniadau, sicrhau cydymffurfiaeth a gyrru llwyddiant busnes.
Mae cymhwyster gan yr ACCA (Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig) yn eich paratoi i ddod yn weithiwr proffesiynol cyllid y mae mawr alw amdanynt ac yn agor y drws i ystod eang o yrfaoedd ym maes cyfrifyddu, archwilio, trethiant, bancio a rheolaeth.
Fel Partner Dysgu yr ACCA sydd wedi'i Gymeradwyo â Safon Aur, mae Grŵp Llandrillo Menai yn bodloni safonau aur yr ACCA ar gyfer cyflwyno cyrsiau, rhoi cymorth i fyfyrwyr a sicrhau llwyddiant mewn arholiadau.
Drwy gydol y cwrs byddwch yn elwa o amgylchedd dysgu cefnogol, adnoddau dysgu modern a thiwtoriaid profiadol sy'n dod â gwybodaeth am y diwydiant i'r ystafell ddosbarth ar-lein.
Mae'r cwrs yn rhoi'r wybodaeth dechnegol hanfodol sydd ei hangen arnoch i lwyddo yn y sector cyfrifyddu a chyllid. Byddwch yn datblygu gwybodaeth a chymhwysiad ymarferol ym meysydd craidd cyfrifyddu, gan gynnwys adrodd ariannol, cyfrifyddu ym maes rheoli, trethiant ac archwilio, gan ymgorffori dulliau strategol o ymdrin â chyllid a chyfrifyddu.
Ochr yn ochr ag arbenigedd technegol, byddwch yn datblygu sgiliau proffesiynol sy'n hanfodol ar gyfer dilyniant gyrfa, gan gynnwys cyfathrebu, gwneud penderfyniadau moesegol, datrys problemau a gwaith tîm. Byddwch yn graddio gyda'r wybodaeth, yr hyder a'r meddylfryd proffesiynol a ddisgwylir gan gyflogwyr, gan gynnwys practisau cyfrifyddu, sefydliadau gwasanaethau ariannol, cyrff y sector cyhoeddus a busnesau masnachol. Yn ogystal â datblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i gefnogi rolau hunangyflogedig, ymgynghori neu lawrydd ym maes cyllid.
Cyflwynir cymhwyster yr ACCA ar draws sawl lefel o'r fframwaith cymwysterau, gan eich galluogi i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau'n raddol. Mae pob cam yn adeiladu ar eich dysgu blaenorol, gan symud o egwyddorion cyfrifyddu craidd hyd at alluoedd proffesiynol a strategol uwch.
Mae'r modiwlau'n cynnwys:
Gwybodaeth Gymhwysol (Lefel 4)
- Busnes a Thechnoleg (BT)
- Cyfrifyddu ym maes Rheoli (MA)
- Cyfrifyddu Ariannol (FA)
Sgiliau Cymhwysol (Lefel 6)
- Cyfraith Gorfforaethol a Busnes (LW)
- Rheoli Perfformiad (PM)
- Trethiant (TX)
- Adrodd Ariannol (FR)
- Archwilio a Sicrhau Ansawdd (AA)
- Rheoli Cyllid (FM)
Lefel Broffesiynol Strategol (Lefel 7)
Craidd
- Arweinydd Busnes Strategol (SBL)
- Adroddiadau Busnes Strategol (SBR)
(Dewisol x 2)
- Rheoli Ariannol Uwch (AFM)
- Rheoli Perfformiad Uwch (APM)
- Trethiant Uwch (ATX)
- Archwilio a Sicrhau Ansawdd Uwch (AAA)
Gwybodaeth Ychwanegol
I ddod yn Aelod o'r ACCA mae'n ofynnol i chi gwblhau'r holl arholiadau, Modiwl Moeseg a Sgiliau Proffesiynol (EPSM), a Phrofiad Ymarferol Gofynnol (PER). Os mai dim ond y PER sy'n weddill, yna dyfernir statws Cyswllt ACCA.
Modiwl ar Foeseg a Sgiliau Proffesiynol (EPSM) - mae hwn yn fodiwl ar-lein gorfodol 15–20 awr a gwblheir yn uniongyrchol gyda'r ACCA. Fe'i cynlluniwyd i ddatblygu sgiliau moesegol, proffesiynol a busnes drwy senarios byd go iawn.
Profiad Ymarferol Gofynnol (PER) - mae hwn yn gydran orfodol ar gyfer aelodaeth lawn o'r ACCA ac mae'n gofyn am 36 mis o brofiad perthnasol ym maes cyfrifyddu neu gyllid, ochr yn ochr â chwblhau naw amcan perfformiad (pump hanfodol a phedwar technegol).
Am ragor o wybodaeth anfonwch e-bost i: acca@gllm.ac.uk
Gofynion mynediad
Gofynion Mynediad Allweddol a Llwybrau Posibl
- Cymwysterau Lefel 3 (Lefel A, cymhwyster galwedigaethol neu gymhwyster cyfatebol)
- O leiaf 2 Lefel A a TGAU (neu gyfwerth) mewn 5 pwnc gwahanol, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg
- TGAU gradd C neu uwch (neu gyfwerth) mewn Mathemateg a Saesneg
- Diploma Lefel 4 AAT mewn Cyfrifeg Broffesiynol
- Gall ymgeiswyr sydd â graddau neu gymwysterau perthnasol gan gyrff cyfrifyddu eraill hefyd fod yn gymwys
- Rhoddir ystyriaeth i ymgeiswyr sydd â chymwysterau perthnasol o dramor
Gofynion ieithyddol:
- Mae angen lefel dda o Saesneg.
- Efallai y bydd gofyn i ymgeiswyr o dramor brofi eu gallu yn y Saesneg (IELTS 5.5 neu gyfwerth)
Mae rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad fesul gwlad/rhanbarth ar gael yma: ACCA Global Minimum Entrance
Mae rhagor o wybodaeth am eithriadau arholiadau ar gyfer graddau perthnasol neu gymwysterau eraill ar gael yma: ACCA Global Exemptions Calculator
Mae pob lle ar y cwrs yn amodol ar gyfweliad boddhaol.
Am ragor o wybodaeth anfonwch e-bost i: acca@gllm.ac.uk
Cyflwyniad
Byddwch yn dysgu drwy ddarpariaeth ar-lein a chyfunol, gan gynnwys:
- 10-12 wythnos fesul modiwl
- Un diwrnod yr wythnos
- Sesiynau byw ar-lein
- Darlithoedd rhyngweithiol ar-lein
- Gweithdai ar-lein dan arweiniad tiwtor
- Trafodaethau a gweithgareddau grŵp
- Adnoddau dysgu ar-lein
- Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)
- Cymorth tiwtorial a sesiynau adolygu
Ffioedd Cyrsiau
- Gwybodaeth Gymhwysol £499
- Sgiliau Cynhwysol £899
- Proffesiynol Strategol £999
Mae gostyngiad o 40% ar gael ar ffioedd cwrs i ddysgwyr sydd wedi cwblhau Lefel 4 AAT yng Ngrŵp Llandrillo Menai a/neu radd ym Mhrifysgol Bangor. Mae cynlluniau talu ar gael i ymgeiswyr sy'n hunan-ariannu.
Ffioedd Ychwanegol
Gall costau ychwanegol gynnwys cofrestru ar gyfer yr ACCA, tanysgrifiad i'r ACCA, ffioedd arholiad yr ACCA, gwerslyfrau, y modiwl ar Foeseg a Sgiliau Proffesiynol, a theithio i'r ganolfan arholiadau o'ch dewis.
Am ragor o wybodaeth anfonwch e-bost i: acca@gllm.ac.uk
Asesiad
Mae'r asesiad yn seiliedig yn bennaf ar arholiadau allanol yr ACCA, ynghyd ag arholiadau ffug ac adborth gan diwtoriaid. Mae arholiadau ar gael mewn canolfannau arholiadau dethol ledled y byd.
Am ragor o wybodaeth anfonwch e-bost i: acca@gllm.ac.uk
Dilyniant
Gall cwblhau arholiadau'r ACCA yn llwyddiannus arwain at gyflogaeth mewn rolau ym maes cyfrifyddu a chyllid, gan symud ymlaen i aelodaeth o'r ACCA (yn amodol ar gwblhau'r Profiad Ymarferol Gofynnol).
Gellir dod o hyd i gyfleoedd gyrfa byd-eang ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes cyfrifyddu a chyllid ar wefan ACCA Global Jobs.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Oedolion a Rhan-amser, Hyfforddiant rhan-amser
Lefel:
5-7
Maes rhaglen:
- Busnes a Rheoli
Dwyieithog:
n/a