Tystysgrif Lefel 2 Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifydda (AAT) mewn Cadw Cyfrifon
Manylion Allweddol
-
Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
-
Dull astudio:Rhan amser
-
Hyd:
Rhan-amser 1 noson yr wythnos - 6pm - 8.30pm
Tystysgrif Lefel 2 Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifydda (AAT) mewn Cadw Cyfrifon
Oedolion a rhan-amser
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Wrth astudio'r cymhwyster hwn datblygir sgiliau cyfrifyddu ymarferol yn y system cofnodi dwbl wrth gadw cyfrifon ac wrth ddefnyddio dogfennau a phrosesau perthnasol.
Bydd dysgwyr yn gallu gwirio cywirdeb trafodion, gwneud cofnodion mewn llyfrau a chyfriflyfrau priodol a chyfrifo anfonebau gwerthu a nodiadau credyd. Yn ogystal â hyn, ymdrinnir â gweithdrefnau cadw cyfrifon mwy cymhleth, yn cynnwys delio â TAW, cysoniadau a mantolenni prawf a datblygu dealltwriaeth o'r berthynas rhwng y cofnodion ar gyfrifon amrywiol
Mae’r cymhwyster yn cynnwys dwy uned orfodol
- Cyflwyniad i Gadw Cyfrifon
- Egwyddorion Rheolau Cadw Cyfrifon
Gofynion mynediad
- TGAU Mathemateg a Saesneg gradd C neu brofiad gwaith perthnasol
- Yn ddelfrydol, dylech fod yn gweithio mewn swydd ym maes cyfrifyddu.
- Mae gofyn i bob dysgwr gofrestru gyda'r corff proffesiynol i dechnegwyr cyfrifyddu.
- Cynigir llefydd yn amodol ar gyfweliad boddhaol.
Cyflwyniad
Darlithoedd yn y dosbarth
Asesiad
Asesiadau allanol ar gyfrifiadur drwy gydol y cwrs
Dilyniant
Mae'n bosib y gallwch fynd ymlaen wedyn i ddilyn cyrsiau ym maes cadw cyfrifon neu gael swydd megis:
- Cynorthwyydd Clercyddol
- Ceidwad Cyfrifon dan Hyfforddiant
- Clerc Cyfrifon
- Cynorthwyydd Cyllid
- Gweinyddwr Cyfrifon
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Oedolion a rhan-amser, Hyfforddiant rhan-amser
Lefel:
2
Maes rhaglen:
- Busnes a Rheoli
Dwyieithog:
n/a
