Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    2 flynedd (4 diwrnod y diwrnod)

Gwnewch gais
×

Gwyddoniaeth Gymhwysol Lefel 3

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Llangefni

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Yn ystod eich rhaglen astudio, byddwch yn cwblhau cymhwyster Lefel 3 mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol. Bydd hyn yn rhoi i chi'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau y bydd arnoch eu hangen i gael gyrfa fel technegydd gwyddonol mewn labordai ac mewn diwydiant, ym maes meddygaeth neu yn y gwasanaeth fforensig.

Ar y rhaglen astudio hon, cewch astudio unedau mwy arbenigol, gan ehangu ac ategu'ch profiad er mwyn eich paratoi at fyd gwaith.

Mae hefyd yn cynnig dilyniant i gymwysterau galwedigaethol uwch fel Tystysgrif/Diploma Cenedlaethol Uwch, a Gradd Sylfaen neu Radd Anrhydedd.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

  • 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg (iaith 1af). TGAU gradd CC mewn Gwyddoniaeth (Dwyradd) neu TGAU gradd C mewn Cemeg a Bioleg
  • GCSE Gwyddoniaeth Gymhwysol / Gradd Teilyngdod mewn BTEC Gwyddoniaeth Gymhwysol
  • Profiad perthnasol mewn diwydiant

Bydd angen hefyd i chi fod wedi cael presenoldeb o 86% yn eich blwyddyn astudio flaenorol.

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Cyflwyniad

Byddwch yn treulio tua hanner yr amser yn edrych ar gysyniadau sylfaenol ac yn eu defnyddio.

Yn aml, bydd gwaith y dosbarth yn dechrau drwy edrych fel grŵp ar nodiadau perthnasol, gan ychwanegu ffeithiau pwysig a phwysleisio pwyntiau penodol. Wedyn, byddwch yn edrych ar broblemau, naill ai mewn grwpiau bach neu'n unigol.

Weddill yr amser, byddwch yn gwneud gwaith ymarferol, gan gynnal arbrofion sy'n gysylltiedig â'r gwaith theori a wnaethoch.

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.

Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Cwrs ymarferol, seiliedig ar waith, yw'r cwrs hwn. Byddwch yn dysgu drwy gwblhau prosiectau ac aseiniadau a seiliwyd ar sefyllfaoedd a gofynion realistig a geir yn y gweithle. Mae 18 uned i'w cwblhau.

Dilyniant

Os gwnewch eu cwblhau'n llwyddiannus, gallwch fynd ymlaen i waith. Os ydych am gael swydd yn syth, gallech weithio:

  • yn y diwydiant gwyddonol
  • fel technegydd mewn labordy
  • mewn ysbyty

Dewis arall fyddai mynd ymlaen i addysg uwch ac astudio at gymhwyster galwedigaethol fel Tystysgrif/Diploma Cenedlaethol Uwch, Gradd Sylfaen neu Radd Anrhydedd, mewn pynciau fel:

  • Gwyddoniaeth Fforensig
  • Gwyddoniaeth Gymhwysol
  • Gwyddorau Biofeddygol
  • Polisïau cymdeithasol
  • Ffotograffiaeth
  • Nyrsio
  • Radiograffeg
  • Cemeg Gymhwysol

Yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gallech fynd ymlaen i ddilyn cwrs gradd BA (Anrh) mewn Polisïau Cyhoeddus a Chymdeithasol, neu'r cwrs Gradd Sylfaen (FdSc) mewn Plismona.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • International
  • Gwyddoniaeth (Cymhwysol)

Dwyieithog:

n/a

Gwyddoniaeth (Cymhwysol)

Myfyriwr Lefel-A Pwllheli yn defnyddio microsgop