Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Glynllifon
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1 flwyddyn

Gwnewch gais
×

Astudiaethau Anifeiliaid Lefel 2

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Glynllifon

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi gael gyrfa yn maes gofal am anifeiliaid? A fyddai cwrs ymarferol Lefel 2 o fudd i chi?

Bwriedir y cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sydd am weithio yn y sector gofalu am anifeiliaid. Mae hyn yn cynnwys gweithio gydag anifeiliaid anwes, grwpiau o anifeiliaid ac elusennau sy'n ymwneud ag anifeiliaid. Bydd y cwrs yn eich paratoi ar gyfer dechrau gweithio yn y maes hwn neu ar gyfer symud ymlaen i ddilyn cwrs galwedigaethol uwch.

Mae'r cwrs yn addas i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau cymhwyster Lefel 1 perthnasol neu sydd wedi sefyll eu TGAU. Mae hefyd yn ddelfrydol ar gyfer oedolion sydd eisoes yn gweithio yn y sector.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

  • 4 TGAU gradd D neu uwch, yn cynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg (iaith 1af)
  • Cymhwyster lefel 1 perthnasol ar lefel Teilyngdod gydag o leiaf un asesiad ysgrifenedig estynedig ar Ragoriaeth a Lefel 1 ESQ mewn Rhifedd a Chyfathrebu
  • Bydd profiad perthnasol yn y diwydiant yn cael ei ystyried ar gyfer ymgeiswyr aeddfed yn unigol

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Sesiynau ymarferol, gyda rhywfaint o wersi yn y dosbarth i feithrin dealltwriaeth
  • Ymweliadau â sefydliadau sy'n ymdrin ag anifeiliaid a gweithio gyda gwahanol rywogaethau
  • Tasgau dosbarth
  • Ymweliadau maes a teithiau i ymestyn profiad

Byddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau yn ymwneud â phynciau penodol yn ogystal â sgiliau llythrennedd a rhifedd.

Mae safle Glynllifon yn cynnwys 750 acer o dir amaethyddol a choetiroedd, a cheir yno gyfleusterau arbenigol i ofalu am anifeiliaid

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU
Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Caiff y cwrs ei asesu drwy gyfrwng:

  • Asesiadau ymarferol yn y rhan fwyaf o'r unedau
  • Aseiniadau ysgrifenedig i ddangos eich dealltwriaeth
  • Tasgau dosbarth
  • Arholiad (diwedd y flwyddyn)

Dilyniant

Os byddwch yn cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, bydd amryw o ddewisiadau ar gael i chi.

Gallwch fynd ymlaen i ddilyn nifer o raglenni, yn cynnwys:

  • Rheoli ym maes Anifeiliaid Lefel 3
  • Nyrsio Milfeddygol Lefel 3
  • Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 i Gynorthwywyr Nyrsio mewn Lleoliadau Milfeddygol
  • Prentisiaeth Lefel 3 mewn Nyrsio Milfeddygol

Os cewch dair neu ragor o raddau Teilyngdod ac os oes gennych TGAU gradd C mewn Saesneg (Iaith) a dau bwnc gwyddonol, byddwch wedi bodlonir meini prawf academaidd ar gyfer dilyn cwrs Nyrsio Milfeddygol.

Byddwch hefyd wedi ehangu'ch dewisiadau o ran swyddi.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Astudiaethau Anifeiliaid a Nyrsio Milfeddygol

Dwyieithog:


Astudiaethau Anifeiliaid a Nyrsio Milfeddygol

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Astudiaethau Anifeiliaid a Nyrsio Milfeddygol

Myfyrwyr gyda neidr