Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Astudiaethau Anifeiliaid Lefel 1

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Glynllifon
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1 flwyddyn

Gwnewch gais
×

Astudiaethau Anifeiliaid Lefel 1

Disgyblion sy'n Gadael yr Ysgol

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi gael gyrfa yn niwydiannau'r tir? A fyddech chi'n elwa o gael hyfforddiant ymarferol?

Cynlluniwyd y cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sydd â rhywfaint o wybodaeth am y diwydiant ac sydd am ddysgu rhagor am bynciau sy'n gysylltiedig â gofalu am geffylau ac anifeiliaid. Bydd yn eich paratoi i ddechrau eich gyrfa, gan ymdrin ag agweddau cyffredinol ac arbenigol ar y maes cyffrous hwn.

Canolbwyntia'r cwrs ar waith ymarferol, gan roi profiad i chi mewn amrywiaeth o feysydd. Byddwch hefyd yn mynychu sesiynau yn y dosbarth i'ch helpu i ehangu'ch gwybodaeth. Byddwch yn elwa ar y cyfleusterau rhagorol sydd yng Nglynllifon ac ar wybodaeth ein staff.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

  • 2 TGAU gradd D neu uwch a chael presenoldeb da ym mlwyddyn 11.
  • Cwblhau rhaglen Hyfforddeiaeth, Cyn-alwedigaethol, Llwybrau Dysgu neu Gyswllt Ysgolion yn llwyddiannus
  • Profiad perthnasol mewn diwydiant

Rhaid i ymgeiswyr sydd eisoes yn astudio yn y coleg wrth bresenoldeb o 86% ar eu cwrs presennol.

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Mae'n gwrs ymarferol sy'n cynnwys ychydig o waith dosbarth er mwyn magu gwybodaeth am y gwahanol bynciau.
  • Cyflwynir y cwrs ar safle 750 erw Glynllifon lle y ceir fferm, coedwigoedd, canolfan farchogaeth dan do a chanolfan i anifeiliaid. Bydd y rhain yn galluogi i chi astudio mewn amgylchiadau go iawn.
Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.

Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Asesiad

Ar y rhaglen, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau canlynol:

  • Asesiadau ymarferol yn y rhan fwyaf o'r unedau
  • Aseiniadau portffolio i ddangos eich dealltwriaeth

Dilyniant

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd gennych nifer o ddewisiadau.

Gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o raglenni yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys:

  • Gofalu am Anifeiliaid Lefel 2
  • Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 i Gynorthwywyr Nyrsio mewn Lleoliadau Milfeddygol

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Disgyblion sy'n Gadael yr Ysgol, Oedolion a rhan-amser

Lefel: 1

Maes rhaglen:

  • Astudiaethau Anifeiliaid a Nyrsio Milfeddygol

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Glynllifon

Astudiaethau Anifeiliaid a Nyrsio Milfeddygol

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Astudiaethau Anifeiliaid a Nyrsio Milfeddygol

Myfyrwyr gyda neidr
Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date