Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Glynllifon
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    Llawn Amser. Blwyddyn 1 - Diploma mewn Rheoli Anifeiliaid, Blwyddyn 2 - Diploma Estynedig mewn Rheoli Anifeiliaid.

Gwnewch gais
×

Rheolaeth Anifeiliaid Lefel 3

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Glynllifon
Glynllifon

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi gael gyrfa'n gweithio gydag anifeiliaid? Hoffech chi ddatblygu'ch sgiliau ar lefel uwch?

Mae'r cwrs hwn yn adeiladu ar y profiad sydd gennych o ofalu am anifeiliaid, gan eich paratoi i ymgymryd â dyletswyddau rheoli. Byddwch hefyd yn dod i ddeall yr agweddau damcaniaethol ac ymarferol ar drin a gofalu am anifeiliaid. Mae hefyd yn llwybr galwedigaethol i Addysg Uwch.

Mae'r cwrs yn addas i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau cwrs Lefel 2, neu gwrs Lefel 2 yn y gweithle, mewn Gofalu am Anifeiliaid. Mae hefyd i'r dim os ydych wedi cwblhau TGAU, neu wedi cael profiad perthnasol.

Drwy gyfrwng gwaith theori a sesiynau hyfforddi ymarferol, byddwch yn ennill y profiad sy'n angenrheidiol ar gyfer amrywiaeth o swyddi rheoli ym maes anifeiliaid. Byddwch yn elwa ar y cyfleusterau rhagorol ar gampws Glynllifon, gan gynnwys yr amrywiaeth o rywogaethau a gedwir yn ein canolfan anifeiliaid.

Gofynion mynediad

Diploma mewn Rheoli Anifeiliaid

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

  • 4 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith 1af a Mathemateg
  • Cymhwyster Lefel 2 perthnasol ar lefel Teilyngdod
  • Profiad perthnasol yn y diwydiant

Diploma Estynedig mewn Rheoli Anifeiliaid (Blwyddyn 2)

  • Llwyddo neu uwch mewn Diploma mewn Rheoli Anifeiliaid

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Cyflwyniad

Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno trwy gyfuniad o sesiynau ystafell ddosbarth seiliedig ar Theori yn gysylltiedig â sesiynau ymarferol i ddatblygu profiad ymarferol a dyfnhau dealltwriaeth.

Mae safle Coleg Glynllifon yn 750 erw o fferm a choetir, gyda'i ganolfan anifeiliaid ei hun yn cynnwys hyd at 50 o rywogaethau. Mae yna 2 gyfleuster egsotig, amrywiaeth o dai anifeiliaid bach, ystafell trin cŵn, padogau allanol, da byw fferm a mynediad i'n coedwig a reolir ar gyfer gweithgareddau bywyd gwyllt ymarferol. Mae'r cyfleusterau'n caniatáu i'ch astudiaethau gael eu cynnal mewn lleoliad realistig.

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.

Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Bydd y rhaglen yn cael ei hasesu drwy gyfuniad o’r canlynol:

  • Aseiniadau portffolio i ddangos eich dealltwriaeth
  • Asesiad ymarferol
  • Arholiad Allanol
  • Asesiad synoptig sy'n dod â theori ac ymarfer ynghyd.

Dilyniant

Mae angen cwblhau’r cwrs Diploma yn llwyddiannus ym Mlwyddyn 1 er mwyn symud ymlaen i’r Diploma Estynedig ym Mlwyddyn 2.

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd gennych nifer o ddewisiadau.

Mae'r cymhwyster yn gyfwerth â 3 Lefel A, ac mae nifer o fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i Addysg Uwch i astudio ar gyfer cymwysterau HND, Graddau Sylfaen neu Raddau Anrhydedd. Gallech hefyd astudio cwrs Lefel 3 Nyrsio Milfeddygol yng Nglynllifon.

Gallech hefyd ddewis dilyn cwrs Addysg Uwch a gweithio yr un pryd.

Gwybodaeth campws Glynllifon

I gydymffurfio ag asesiadau risg, mae'n ofynnol i bob myfyriwr ddefnyddio Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) priodol ar gyfer gweithgareddau ymarferol. Byddwch yn cael gwybod pa PPE sydd ei angen cyn dechrau'r cwrs a bydd peth o'r cyfarpar ar gael i'w brynu trwy'r coleg.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Astudiaethau Anifeiliaid a Nyrsio Milfeddygol

Dwyieithog:


Astudiaethau Anifeiliaid a Nyrsio Milfeddygol

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Astudiaethau Anifeiliaid a Nyrsio Milfeddygol

Myfyrwyr gyda neidr