Agored Cymru - Cyfrifon Cyfrifiadurol Lefel 2 (SAGE)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Abergele
- Math o gwrs:Rhan amser
- Dull astudio:Rhan amser
- Lefel:2
- Maes rhaglen:Busnes a Rheoli
Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau
TG a'r Cyfryngau - Hyd:
10 wythnos, 3 awr
- Dwyieithog:n/a
Disgrifiad o'r Cwrs
Anelir y cwrs at bobol sy'n gyfrifol ar hyn o bryd am weinyddiaeth system cyfrifo ar bapur neu'n rhannol ar gyfrifiadur.
Bydd hefyd yn addas i'r rheiny sy'n astudio fel paratoad i gael gwaith mewn cadw cyfrifon/swydd mewn cyfrifeg ac am ennill profiad ehangach mewn defnyddio meddalwedd cyfrifon cyfrifiadurol.
Gofynion mynediad
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol, ond mae gwybodaeth o dermau cadw cyfrifon sylfaenol, ymwybyddiaeth o gyfrifiaduron a sgiliau defnyddio allweddell yn hanfodol.
Cyflwyniad
Hyfforddiant ffurfiol, defnyddio llyfr gwaith cam wrth gam.
Amcan y cwrs yw cyflwyno system ffeilio cyfrifiadurol effeithiol. Bydd yn eich galluogi chi i gael profiad eang ac yn ehangu eich gallu mewn defnyddio meddalwedd cyfrifo cyfrifiadurol. Mae'r cwrs yn defnyddio'r feddalwedd SAGE Line 50 diweddaraf, sy'n boblogaidd gyda nifer o fusnesau a diwydiant. Mae'r cwrs byr hon yn rhedeg trwy'r blwyddyn academaidd (Amser tymor YN UNIG).
Byddwch yn dysgu'r nodweddion gweithredu a sefydliad:
- Y Llyfr Cyfrifon Gwerthiannau
- Y Llyfr Cyfrifon Prynu
- Y Llyfr Cyfrifon Enwol
- Y Banc a chyfrifon arian (taliadau, anfonebau a throsglwyddiadau banc)
- Cymod Banc
- Cynhyrchu adroddiadau ariannol
- Diogelwch data cyfrifiadur.
Asesiad
Cwblhau portffolio myfyriwr sy'n cynnwys tystiolaeth o'r gwaith ac mewn asesiadau dosbarth.
Dilyniant
- Cadw Cyfrifon a Sgiliau Cyfrifyddu Lefel 2
- Cyfrifon Cyfrifiadurol Lefel 3
- Cadw Cyfrifon ar Bapur Lefel 3
A hoffech chi wneud cais am y cwrs hwn?
Gallwch wneud cais am lawer o gyrsiau yn uniongyrchol trwy'r wefan, neu lawrlwytho ffurflen gofrestru.
Cliciwch yma am wybodaeth ar sut i wneud cais.