Sgiliau Gweinyddu mewn Amgylchedd Meddygol Lefel 2

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Abergele
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    3 awr yr wythnos am 20 wythnos - £240

Gwnewch gais
×

Sgiliau Gweinyddu mewn Amgylchedd Meddygol Lefel 2

Cyrsiau Rhan-amser

Gallwch wneud cais am lawer o gyrsiau yn uniongyrchol trwy'r wefan, neu lawrlwytho ffurflen gofrestru.
Cliciwch yma am wybodaeth ar sut i wneud cais.

Disgrifiad o'r Cwrs

Nod y cwrs yw cynnig gwybodaeth i ddysgwyr am weinyddu ynghyd â dealltwriaeth o weithdrefnau gweinyddu meddygol sy'n berthnasol ar gyfer cofrestru cleifion, trefnu apwyntiadau a'r systemau apwyntiadau, defnyddio offer swyddfa a dyletswyddau gweinyddu cyffredinol yn cynnwys y post, defnyddio ffôn, ffeilio a threfnu presgripsiynau rheolaidd. Bydd dysgwyr hefyd yn gwybod am bwysigrwydd rheoli amser a chywirdeb o fewn amgylchedd meddygol.

Bydd cwblhau'r cwrs hwn yn eich arfogi â sgiliau pwysig ar gyfer meddygol mewn gwaith gweinyddu meddygol. Gall eich cynorthwyo i lwyddo mewn rôl weinyddol mewn sefydliad GIC o unrhyw faint yn cynnwys: Ysgrifennydd, Derbynnydd, Gweinyddwr, Cynorthwyydd Personol, Clerc Cofnodion Meddygol a Chlerc Ward.

Gofynion mynediad

Ystyrir defnydd da o iaith (Saesneg) yn fanteisiol gyda phwyslais arbennig ar gywirdeb wrth sillafu.

Cyflwyniad

Sesiynau addysgu gan ddefnyddio trafodaethau, ymarferion/gweithgareddau ymarferol, taflenni gwaith, asesiadau, cyfarwyddiadau uniongyrchol, sesiynau darlithio, fideos a dulliau dysgu eraill

Bydd gwaith cartref a dysgu annibynnol yn rhan annatod o'r cwrs.

Asesiad

Bydd yr holl waith yn cael ei asesu drwy gyfuniad o’r dulliau canlynol; Aseiniad, Cwestiynau atebion byr.

Dilyniant

Dilyniant:

  • Sgiliau Cyfathrebu mewn Amgylchedd Meddygol L2
  • Trawsgrifiad clywedol ym maes meddygaeth L2
  • Terminoleg Feddygol ar gyfer Gweinyddwyr L2
  • Gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol fel Gweinyddwr Meddygol L2

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Busnes a Rheoli
  • Busnes a Gweinyddiaeth

Busnes a Rheoli

GLLM General Classroom 10

Busnes a Gweinyddiaeth

GLLM General Classroom 13