Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Olwynion Sgraffinio - Defnyddio Llifiau Torbwynt Petrol yn Ddiogel

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    1 diwrnod

Gwnewch gais
×

Olwynion Sgraffinio - Defnyddio Llifiau Torbwynt Petrol yn Ddiogel

Cyrsiau Byr

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Bydd y cwrs hwn yn ymdrin â phob agwedd ar Olwynion Sgraffinio a sut i ddefnyddio llif dorbwynt betrol yn ddiogel. Bydd yn cynnwys popeth, o ddethol a ffitio Cyfarpar Diogelu Personol, defnyddio'r peiriannau, eu hail-lenwi â thanwydd, i archwilio a chludo'r llif dorbwynt yn ofalus.

Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i ddefnyddio Olwynion Sgraffinio a Llif Dorbwynt Betrol.

Ymhlith y pynciau a astudir ar y cwrs, mae:

  • Rheoliadau perthnasol
  • Mathau gwahanol o Olwynion Sgraffinio, disgiau a'u swyddogaethau
  • Dulliau cymeradwy o archwilio a storio cyfarpar
  • Deall y peryglon y gall llwch, sŵn a dirgrynu eu hachosi i iechyd
  • Deall grymoedd adweithiol a'r hyn sy'n achosi adlamu

Dangos y dechneg gywir o ran torri cerrig/brics/concrit a metel ar y ddaear.

Dyddiadau cwrs:

£135

Gofynion mynediad

  • Dim

Cyflwyniad

  • Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys cyfuniad o theori a dysgu ymarferol.

Asesiad

  • Asesiad cychwynnol a phapur arholiad ar ddiwedd y cwrs.
  • Canlyniadau ymarferol, gan gwblhau dwy dasg dorri orfodol ac ymarfer craidd.

Dilyniant

  • Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn gallu defnyddio llif dorbwynt betrol yn ddiogel.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: N/A

Maes rhaglen:

  • Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Llangefni

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Myfyrwyr yn edrych trwy 'total station'