Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Bydd yr Academi Bêl-droed yn rhoi cyfleoedd a chefnogaeth i chi feithrin eich sgiliau ac ehangu eich profiadau ar y maes chwarae, yn ogystal ag astudio ar gwrs academaidd llawn amser. Mae'r Academi Bêl-droed yn cynnwys chwaraewyr rhwng 16 ac 19 oed.

Rhaglen Ysgoloriaeth Clwb Pêl-droed Bae Colwyn
Mewn partneriaeth â Chlwb Pêl-droed Bae Colwyn, mae Coleg Llandrillo'n falch o ddarparu rhaglen Academi Bêl-droed. Mae'r ysgoloriaeth bêl-droed gyffrous hon yn rhoi cyfle i bêl-droedwyr uchelgeisiol gyfuno eu haddysg â hyfforddiant o'r radd flaenaf, gan gael profiad o chwarae mewn gemau cystadleuol a dilyn llwybr datblygu clir. Bydd yr Academi, sy'n agored i fechgyn 16-19 oed o unrhyw glwb, yn croesawu ei griw cyntaf o chwaraewyr ym mis Medi 2026. Yn ogystal, mae rhaglen benodol i ferched yn cael ei chynllunio ar gyfer 2027-28.

Pam ymuno â'r Academi?

  • Cei hyfforddi a chystadlu ar lefel uchel
  • Cei gyfuno gwaith academaidd â hyfforddiant pêl-droed o'r radd flaenaf
  • Cei fanteisio ar hyfforddiant arbenigol drwy ein cysylltiad â Chlwb Pêl-droed Bae Colwyn
  • Cei barhau i chwarae i dy glwb lleol heb orfod arwyddo i Glwb Pêl-droed Bae Colwyn
  • Cei gymryd rhan mewn sesiynau cryfder a chyflyru, gwyddor chwaraeon, a dadansoddi perfformiad
  • Cei fanteisio ar gyfleusterau hyfforddi rhagorol sy'n cynnwys cae 3G gyda llif oleuadau a champfa fodern
  • Cei ddilyn rhaglenni datblygiad personol sydd wedi'u teilwra i dy anghenion

Amgylchedd sy'n Canolbwyntio ar Berfformiad
Mae'r Academi'n rhoi cyfle i bêl-droedwyr uchelgeisiol ddatblygu ar y cae ac yn y coleg. Drwy'r bartneriaeth â Chlwb Pêl-droed Bae Colwyn, bydd y myfyrwyr yn elwa ar gysylltiadau uniongyrchol â sefydliad blaengar gan ddod yn gyfarwydd â phêl-droed dynion a llwybrau go iawn i'r gamp. Bydd chwaraewyr yn cael eu cefnogi gan hyfforddwyr proffesiynol a staff arbenigol mewn amgylchedd heriol a chadarnhaol, gan gael eu hannog i wella, cystadlu a llwyddo.

Llwybrau Academaidd

Mae holl chwaraewyr yr Academi'n dilyn cwrs llawn amser ochr yn ochr â'r rhaglen bêl-droed. Mae'r dewisiadau'n cynnwys:

  • Pynciau Safon Uwch
  • Cyrsiau galwedigaethol, fel Cyrsiau lefel 2 mewn Chwaraeon a Chyrsiau lefel 3 mewn Chwaraeon
  • Llwybrau gradd mewn Chwaraeon i fyfyrwyr 18-19 oed

Rydym ni'n cynorthwyo myfyrwyr i gyfuno'u hastudiaethau â galwadau chwaraeon elît gan sicrhau eu bod yn llwyddo'n academaidd ac ar y cae pêl-droed.

Y Rhaglen Bêl-droed

Mae gan yr Academi ddwy sgwad:

Tîm yr Academi

Mae Tîm yr Academi'n cystadlu ar y lefel bêl-droed uchaf i golegau sef Cynghrair ECFA.

Sgwad Ddatblygu
Llwybr i ddatblygu chwaraewyr fel eu bod yn gallu ymuno â Thîm yr Academi.

Gall chwaraewyr hefyd gynrychioli'r Academi yng nghystadleuaeth Cwpan Pêl-droed Colegau Cymru dan 18 oed.

Hyfforddi a Datblygu

Mae'r chwaraewyr yn hyfforddi dri diwrnod yr wythnos ac yn derbyn pecyn datblygu cynhwysfawr sy'n cynnwys:

  • Hyfforddiant pêl-droed arbenigol
  • Cryfder a chyflyru
  • Cefnogaeth gwyddor chwaraeon
  • Fideos i ddadansoddi perfformiad
  • Hyfforddiant technegol a thactegol
  • Paratoi at gemau ac adolygu perfformiad

Rhaglen Hyfforddi Wythnosol

  • Dydd Llun (2:30–4:30pm): Sesiwn gryfder yn y gampfa ac yna hyfforddiant ar y cae
  • Dydd Mawrth (2:30–4:30pm): Paratoi tactegol a dadansoddi fideos
  • Dydd Mercher: Diwrnod gemau, gyda gemau cartref yn dechrau fel arfer am 2:00pm
  • Dydd Gwener (2:30–4:30pm): Sesiwn hyfforddiant technegol a thactegol

Rydym Ni'n Derbyn Ceisiadau Rŵan
Mae'r broses ymgeisio wedi agor ar gyfer Medi 2026.

Beth bynnag yw dy fwriad, mynd ymlaen i chwarae pêl-droed ar lefel uchel, ennill cymwysterau cydnabyddedig, neu ddatblygu gyrfa mewn chwaraeon, yn Academi Bêl-droed Coleg Llandrillo fe gei di'r gefnogaeth a'r ddisgyblaeth broffesiynol a fydd yn dy helpu i lwyddo.