Cyfleusterau Cynadledda yng Ngogledd Cymru
Os ydych yn bwriadu cynnal digwyddiad neu'n chwilio am leoliad unigryw ar gyfer cyfarfod busnes yng Ngogledd Cymru, fe all un o'n hystafelloedd cynadledda ateb eich gofynion i'r dim. Mae gennym gyfleusterau cynadledda ar gael i'w llogi'n allanol yn ystod y tymor ar ddau gampws: y Ganolfan Ynni, Llangefni a Chanolfan Gynadledda Orme View,
Pa un ai a ydych yn chwilio am ystafell fechan i gynnal cyfarfod busnes neu ystafell gynadledda fawr ar gyfer digwyddiad hyfforddi, mae gennym ystafelloedd o'r radd flaenaf i'w cynnig i chi. Gallwn drefnu'r ystafelloedd i fodloni eich gofynion chi, ar ffurf theatr, cyfarfod bwrdd, cabaret, sgwâr neu ystafell ddosbarth. Mae'r cyfleusterau'n cynnwys cyfrifiadur gyda thaflunydd ar gyfer cyflwyniadau PowerPoint, cyswllt diwifr i'r rhyngrwyd a thaflunydd tros ysgwydd. Mae'r ystafelloedd i gyd yn olau a cyfforddus a gallwn drefnu lluniaeth ar eich cyfer sy'n cyfateb i'ch cyllideb.

Orme View: Campws Llandrillo-yn-Rhos
01492 546 666 ext. 1248
Ystafell Rhos
Mae lle i 30 o westeion os trefnir yr ystafell ar ffurf theatr neu 20 os caiff ei gosod ar gyfer cyfarfod bwrdd. Opsiwn arall yw uno Ystafell Rhos ag Ystafell Conwy er mwyn cael lle i hyd at 70 ar ffurf theatr, 40 ar ffurf cabaret neu 30 mewn cyfarfod bwrdd.
Madog Suite
Yma mae lle i 60- 70 o westeion ar ffurf theatr, 40 ar ffurf cabaret neu 40 ar ffurf sgwâr neu gyfarfod bwrdd.
Mae hefyd yn bosib llogi Bwyty'r Orme View ar gyfer cinio. Gall ddal hyd at 70 o bobl ac ar y cyd ag ystafelloedd Rhos, Conwy a Madog gall gael ei ddefnyddio ar gyfer cyfarfodydd llawn a sesiynau grŵp. I ginio, gallwch ddewis bwffe ysgafn neu bryd bwyd ffurfiol, gallwch gael tamaid wrth weithio neu gael hoe fach yn un o'n bwytai. Gallwn gadw llefydd parcio ar eich cyfer.