Bywyd Myfyriwr
Mae'r awyrgylch ar bob un o'r campysau'n fywiog, croesawgar a chyfeillgar gydag adnoddau, cyfleusterau a chyfleoedd rhagorol ar gael i bob myfyriwr.
Caffis a Bwytai
Mae gen y Grŵp ddigonedd o lefydd lle all myfyrwyr gymdeithasu a mwynhau amrywiaeth o fwydydd poeth ac oer, byrbrydau, cacennau a diodydd.
Y Campfeydd a'r Academïau Chwaraeon
Ar y gwahanol gampysau, cynigir amrywiaeth o chwaraeon, yn cynnwys athletau, badminton, pêl-fasged, pêl-droed, hoci, pêl-rwyd, rygbi a sboncen.
Y Gwasanaeth Llyfrgelloedd a Thechnoleg Dysgu
Yn y Llyfrgelloedd, y Gweithdai TG a'r Canolfannau Adnoddau Dysgu, darperir cyfleusterau astudio ardderchog a dewis eang o ffynonellau gwybodaeth.
Undeb y Myfyrwyr
Mae Undeb Myfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai yn gysylltiedig ag Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (UCU) ac mae gan bob myfyriwr hawl awtomatig i ymaelodi ag Undeb y Myfyrwyr, gan elwa ar y berthynas a grëwyd rhwng y ddau undeb.
Llysgennad Actif a Lles
Cynlluniwyd ein Rhaglen Llysgenhadon Lles i ddatblygu arweinwyr y dyfodol, gan hyrwyddo pwysigrwydd iechyd a lles.