Llyfrgell +
Mae Llyfrgell+ yn amgylchedd dysgu arloesol sydd wedi'i gynllunio i fynd y tu hwnt i wasanaethau llyfrgell traddodiadol, gan gynnig lle deinamig i fyfyrwyr astudio, meddwl a chreu.
Mae gan fyfyrwyr fynediad at ystod eang o adnoddau gan gynnwys llyfrau a chyfnodolion, adnoddau arbenigol ar-lein, offer dysgu digidol fel pensetiau VR, WiFi am ddim, a benthyca Chromebook.
Mae Llyfrgell+ hefyd yn darparu amrywiaeth o fannau astudio, a staff ymroddedig i gefnogi myfyrwyr gyda'u sgiliau astudio.

Lle i astudio
Mae'r holl fannau sydd â mynediad agored ar agor drwy gydol diwrnod y coleg. Mae'r meddalwedd a'r caledwedd diweddaraf ar gael yno.
- Cyfle i ddefnyddio cyfrifiadur a chyfleusterau argraffu
- Astudio'n unigol ac mewn grŵp
- Defnyddio'r rhwydwaith a'r Wi-Fi am ddim
- Mynediad at fenthyca Chromebooks
Mae ein llyfrgelloedd yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau cyfoethogi a lles fel: grwpiau darllen, gwyddbwyll, clybiau o grefftau i sgiliau digidol gan gynnwys realiti rhithwir, codio, a dysgu sut i ddefnyddio dronau.
Adnoddau Gwybodaeth
Mynediad at adnoddau arbenigol ar-lein fel cronfeydd data, e-lyfrau ac e-gyfnodolion, llyfrau printiedig, cylchgronau a phapurau newydd.
Mae catalog y llyfrgell ar-lein yn caniatáu i chi chwilio ein casgliad cyfan ar draws holl safleoedd y coleg gan gynnwys llyfrau a deunydd electronig. Mae'r catalog yn caniatáu ichi gael mynediad at fanylion eich cyfrif, i adnewyddu benthyciadau, ac i weld eich archebion.
Edrychwch trwy gatalog ar-lein y llyfrgell yma.
Lawrlwythwch ap y llyfrgell i gael mynediad at y gwasanaethau o'ch ffôn clyfar. Gallwch reoli eich cyfrif, chwilio'r catalog, adnewyddu ac archebu llyfrau.
Cefnogaeth Bellach
Gall y staff cyfeillgar yn ein llyfrgelloedd roi cymorth, cyngor ac arweiniad i chi ar ddefnyddio adnoddau a chyfleusterau’r llyfrgell+.
Rydym yn cynnig sesiynau sgiliau astudio wyneb yn wyneb neu o bell ar gyfer cefnogaeth i gael mynediad at adnoddau ar-lein, cyfeirio, Google Suite, Read&Write ac unrhyw feysydd eraill
Mae sianel YouTube y llyfrgell, a'r wefan Sgiliau Astudio yn cynnwys adnoddau i'ch helpu gyda sgiliau ymchwil ac ysgrifennu aseiniadau.
Coleg Llandrillo
Abergele
01745 828 100 / libraryabergele@gllm.ac.uk
Tymor:
- Dydd Llun-Dydd Gwener: 9:00am-5:00pm
Gwyliau:
- Cysylltwch â ni
Llandrillo-yn-Rhos, Llyfrgell Bodnant
01492 542 342 / libraryrhos@gllm.ac.uk
Tymor:
- Dydd Llun-Dydd Iau: 8:30am-5:00pm
- Dydd Gwener: 9:30am-4:00pm
Gwyliau:
- Ar gau
Llyfrgell UCCL
Tymor:
- Dydd Llun: 8:30am-7:00pm
- Dydd Mawrth-Dydd Iau: 8:30am-9:00pm
- Dydd Gwener: 8:30am-4:00pm
Gwyliau:
- Dydd Llun-Dydd Iau: 8:30am-5:00pm
- Dydd Gwener: 8:30am-4:00pm
Rhyl
01745 345 841 / d.huws@gllm.ac.uk
Tymor:
- Dydd Llun-Dydd Iau: 8:30am-5:00pm
- Dydd Gwener: 8:30am-4:30pm
Gwyliau:
- Dydd Llun-Dydd Gwener: 8:30am-5:00pm
Coleg Meirion-Dwyfor
Dolgellau
01341 422 827 ext.1425 / rhiannon.jones@gllm.ac.uk / rhian.owen@gllm.ac.uk
Tymor:
- Dydd Llun-Dydd Iau: 9:00am-5:00pm
- Dydd Gwener: 9:00am-4:30pm
Gwyliau:
- Cysylltwch â ni
Glynllifon
01286 830 261 ext. 8534 / t.page@gllm.ac.uk
Tymor:
- Dydd Llun-Dydd Iau: 8:30am-4:30pm
- Dydd Gwener: 8:30am-4:30pm
Gwyliau:
- Cysylltwch â ni
Pwllheli
01758 701 385 ext. 8630 / marian.jones@gllm.ac.uk
Tymor:
- Dydd Llun-Dydd Iau: 9:00am-5:00pm
- Dydd Gwener: 9:00am-4:30pm
Gwyliau:
- Dydd Llun-Dydd Gwener: 9:00am-4:15pm
Coleg Menai
Bangor
01248 383 329 / library.menai@gllm.ac.uk
Tymor:
- Dydd Llun: 8:45am-5:00pm
- Dydd Mawrth: 8:45am-6:30pm
- Dydd Mercher: 8:45am-5:00pm
- Dydd Iau: 8:45am-6:30pm
- Dydd Gwener: 8:45am-4:00pm
Gwyliau:
- Cysylltwch â ni
Llangefni
01248 383 350 / library.menai@gllm.ac.uk
Tymor:
- Dydd Llun-Dydd Iau: 8:45am-4:30pm
- Dydd Gwener: 8:45am-4:00pm
Gwyliau:
- Cysylltwch â ni
Parc Menai
01248 674 341 / library.menai@gllm.ac.uk
Tymor:
- Dydd Llun-Dydd Iau: 8:45am-4:30pm
- Dydd Gwener: 8:45am-4:00pm
Gwyliau:
- Cysylltwch â ni