Academi Ddigidol Werdd - Astudiaethau Achos
Trwy Gronfa Adfywio Cymunedol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mae Busnes@LlandrilloMenai wedi bod yn gweithio gyda busnesau ar draws Gwynedd a Môn i leihau
eu ôl-troed carbon trwy’r Academi Ddigidol Werdd. Mae’r rhaglen sydd wedi ei ariannu yn llawn, yn darparu cymorth a chyngor arbenigol i helpu busnesau bach addasu ar gyfer dyfodol sero net.
Mona Lifting
Y nod i Mona Lifting yw parhau’n hyfyw yn fasnachol tra’n lleihau allyriadau carbon ac effeithiau amgylcheddol.
MÔN AR LWY
Mae Môn ar Lwy, cwmni hufen iâ o Fodorgan, wedi bod yn gweithio gyda Busnes@LlandrilloMenai i fapio ei ôl troed carbon drwy’r Academi Ddigidol Werdd.
Tyddyn Isaf Camping & Caravan Park
Mae Tyddyn Isaf wedi ei leoli mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn edrych dros bae Lligwy ar arfordir ddwyreiniol Ynys Môn, ym mhentref Dulas. Mae pobl wedi bod yn gwersylla ar y safle ers 1946, ac mae’r busnes teuluol wedi ymrwymo ers tro i wneud popeth o fewn ei allu i ddiogelu’r amgylchedd ac adnoddau’r ddaear.
Rheilffordd Talyllyn
Mae’r tîm yn angerddol am amddiffyn yr amgylchedd yn ogystal â buddsoddi yn y gymuned leol, felly roedd y cyfle i gymryd rhan yn yr Academi Ddigidol Werdd yn un rhy dda i’w golli.
Becws Islyn
Mae Becws Islyn wedi ei leoli ym mhentref Aberdaron, Pen Llŷn. Wedi ei sefydlu yn y 90au, mae’r busnes wedi ehangu’n ddiweddar gan agor siopau yn Nefyn a Phwllheli, yn ogystal â chynnig gwasanaeth cludo cynnyrch i gwsmeriaid.
Caban Brynrefail
Mae Caban yn fenter unigryw wedi ei leoli ym mhentref Brynrefail ger Caernarfon.